Adjudicator: John S Davies

Emyn Heddwch

Os bydd y sêr yn diffodd
Fel lampau stryd y dre’,
Heb ganllaw i oleuo
Dy heol tua thre’,
Bydd gweddi’r tangnefeddwyr
Yn olau hyd y nos,
Tra bo croeswyntoedd rhyfel
Yn rhuo ar y rhos.

Os clywi’r môr yn dannod
Y cychod ar y dŵr,
A’u taflu’n ddidrugaredd
I’r dyfnder di-ystŵr,
Rho dithau loches iddynt,
Rhag grym y storom flin;
Rho harbwr saff i’w derbyn,
A chartref rhag y drin.

Os bydd y cŵn yn udo
Am ryfel ac am waed,
Rhaid cofio am bob safiad
Dros heddwch byd a wnaed.
Mae geiriau’r tangnefeddwyr
Yn hŷn na ffiniau gwlad,
Mor gadarn â’r mynyddoedd,
A chariad mam a thad.

Prize: £200 (er cof am Mandy Williams, Tŷ Rhos, Rhoshill, a fu’n fuddugol ddwywaith yn y gystadleuaeth hon)

Closing date: 1 April 2026 at 12 noon

General rules and conditions

Show

Special conditions for this section