Adjudicator: Sioned Webb

Emyn Newydd

Rho in Golomen Sanctaidd Hedd
a nawdd ei thyner adain;
Llewyrched cariad dan bob bron,
i’th Gariad Di gael atsain.

Llefara Grist dy hedd drachefn
a dwg ni at Dy fendith;
Doed gosteg fel y gawod wlith,
a ninnau’n rhydd o’n tryblith.

Boed i genhedloedd ildio’r dryll,
Troi cefn ar raib a dial,
Dibrisiwn fory’n daear wyw,
hen gynnen sy’n ddiatal.

Boed cytgord i’n heneidiau’n stôr
wrth adfer Dy ddoethineb;
A boed i wledydd byd mewn pryd
Ail ganfod rhin gwarineb.

Prize: £200 (Er cof am gyn-organyddion Penuel sef John Tudor Davies a David Parry.)

Closing date: 1 April 2025 at 12 noon

General rules and conditions

Show

Special conditions for this section