Mae Gorsedd Cymru yn galw am gofeb genedlaethol i gofio am y gŵr hwn oedd yn ddysgedig mewn sawl maes.
Ysbrydoliaeth Iolo oedd gweld Cymru gyda'i llyfrgelloedd, ei phrifysgolion, ei hamgueddfeydd, ei sefydliadau diwylliannol gyda llais y werin i'w glywed yn llywodraethu gwlad. Ymgyrchodd yn erbyn caethwasiaeth, rhyfeloedd a thlodi. Ei gofeb ef fyddai'r gyntaf o lenor Cymraeg yn y brifddinas.
Y bwriad ydy dadorchuddio cofeb drawiadol yng Nghaerdydd yn Rhagfyr 2026.
Diolch am bob cefnogaeth!