Beirniaid: Daniel Lloyd, Gethin Evans, Betsan Llwyd Bara Caws, Ffion Wyn Bowen, Lisa Lewis, Lowri Morgans, Mari Emlyn, Melanie Owen, Rhian Blythe a Steffan Donnelly

Gwahoddir dramodwyr i gyflwyno naill ai braslun o hyd at 2500 o eiriau, sy'n cynnwys amlinelliad stori - dechrau, canol, diwedd - lleoliad ac amser, proffil cymeriadau, arddull y darn yn ogystal â enghraifft o 3 golygfa wedi eu deialogi; neu ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, mewn cydweithrediad â Chonsortiwm o gwmnïau a chynhyrchwyr theatr yng Nghymru, yn cynnig pecyn cynhwysfawr wedi'i deilwra i’r dramodydd buddugol i ddatblygu gwaith ac agor drws ehangach i’r diwydiant theatr yng Nghymru. Mae’r wobr, sydd yn gomisiwn i ddatblygu sgript, gan roi’r cyfle i ysgrifennu/datblygu drama mewn proses fanwl er mwyn galluogi’r dramodydd i ymestyn ei sgiliau creadigol, mewn amgylchedd diogel, gyda’r nod o gynhyrchu darn gwreiddiol o waith safonol ar gyfer y theatr.

Bydd y panel o feirniaid (i gynnwys cynrychiolydd o'r Consortiwm) yn dewis y dramodydd mwyaf rhagorol o blith y ceisiadau i’w g/wobrwyo. Bydd y panel yn chwilio am ddramodydd sy’n creu gwaith trawiadol, cyffrous ac sy’n herio dychymyg a meddylfryd cynulleidfa.

Panel Beirniaid: Betsan Llwyd (Theatr Bara Caws); Daniel Lloyd (Theatr Clwyd); Ffion Wyn Bowen (Cwmni Theatr Arad Goch); Gethin Evans (Frân Wen); Lowri Morgan (Theatr y Sherman); Mared Jarman (llawrydd); Melanie Owen (llawrydd); Steffan Donnelly (Theatr Cymru).
Mari Emlyn yn cynrychioli Betsan Llwyd (Theatr Bara Caws) a Rhian Blythe yn cynrychioli Steffan Donnelly (Theatr Cymru) yn y cyfarfod cyntaf.

Cyflwynir arian ar y cyd rhwng aelodau’r Consortiwm mewn partneriaeth gyda’r Eisteddfod er mwyn cynnig gwobr o statws a fyddai’n cyfrannu tuag at ddatblygiad gyrfaol y dramodydd. Bydd y pecyn o gefnogaeth yn cynnig costau i'r dramodydd ac yn cael ei deilwra mewn ymgynghoriad â’r dramodydd, gan adlewyrchu’r anghenion yn ôl y gofyn, e.e. gallai hyn gynnwys elfen o fentora os yn berthnasol. Yn ychwanegol i’r wobr ariannol, bydd swm o arian gan y Consortiwm yn cael ei neilltuo ar gyfer datblygu gwaith y buddugol.

Fel rhan o’r pecyn bydd y panel beirniaid, mewn ymgynghoriad â’r buddugol, yn penodi’r cwmni/au perfformio/cynhyrchu mwyaf addas o fewn y Consortiwm yn ôl arddull gwaith y dramodydd buddugol. Daw'r broses ddatblygu i ben gyda darlleniad o’r sgript lawn yn yr Eisteddfod y flwyddyn ganlynol.

Yn ychwanegol i'r wobr, sydd yn gomisiwn i ddatblygu sgript, fe gynigir cyfleoedd gan y Consortiwm ehangach i gynnwys:

  • Cyfnod o gysgodi;
  • Cyfleoedd i gwrdd â’r tîm;
  • Gwahoddiadau i rwydweithio;
  • Cyngor gyrfaol;
  • Tocynnau braint i weld cynyrchiadau penodol.

Cytunir ar y manylion gyda’r buddugol / consortiwm wedi’r Eisteddfod.

Consortiwm: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Frân Wen, Theatr Bara Caws, Theatr Clwyd, Theatr Cymru, Theatr Sherman, Theatr y Torch, Cwmni Theatr Arad Goch

Gwobr: Medal y Dramodydd (er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £3000

  1. Ni ddylai’r ddrama fod wedi ei chynhyrchu yn broffesiynol, nac wedi derbyn unrhyw wobrau, nag wedi cael ei chyhoeddi, i fod yn gymwys ar gyfer y wobr hon.
  2. Gellid cyflwyno Dramâu nad ydynt eisoes wedi cael eu cyflwyno i unrhyw un o aelodau’r Consortiwm
  3. Gellid cyflwyno fel cyd-ysgrifennwr, gan rannu’r wobr ariannol a’r profiad sydd ynghlwm â’r wobr.
  4. Daw'r broses ddatblygu i ben gyda darlleniad o’r sgript lawn yn yr Eisteddfod y flwyddyn ganlynol. Bydd gan y Consortiwm yr hawl am 6 mis ar ôl y darlleniad i wneud y cynnig cyntaf er mwyn datblygu'r gwaith ymhellach ar gyfer cynhyrchiad llawn, wedi hynny dychwelir yr hawliau i'r dramodydd.
  5. Gweler hefyd Rheolau ac Amodau Cyffredinol yr Eisteddfod.

General rules and conditions

Show

Special conditions for this section