Ysgrifennu’r Hinsawdd

Esyllt Angharad Lewis, Siân Melangell Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis sy'n trafod ein perthynas gyda natur a'n lle o fewn ecosystemau naturiol a diwylliannol, fel rhan o brosiectau cyfnewid rhyngwladol Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau. Bu Esyllt ar breswyliad yn Valetta, Malta, fel rhan o raglen Ulysses' Shelter, a theithiodd Siân a Llŷr i ŵyl Metropolis Bleu, Quebec yn ystod mis Mai 2023.