Dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf
Cynhelir yr ŵyl eleni ddydd Sadwrn 24 Mehefin, ac mae’r diwrnod yn gyfle pwysig i’r ardal groesawu’r Eisteddfod, ac i’r Brifwyl groesawu trigolion lleol i’r Eisteddfod.
Heddiw, mae’r trefnwyr yn cyhoeddi mai yn nhref Aberdâr y cynhelir y seremoni, gyda’r Brifwyl yn dychwelyd i’w gwreiddiau, ac i gartref yr Eisteddfod fodern gyntaf yn 1861. Bydd Gorsedd Cymru’n gorymdeithio drwy’r dref, cyn cynnal eu seremoni draddodiadol, gyda’r copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn cael ei gyflwyno i’r Archdderwydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser. Mae’r seremoni’n garreg filltir bwysig yn y paratoadau ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesaf.
Dywed, “Mae gwybod fod y Cyhoeddi ar y gorwel yn rhoi dipyn o wefr i ni yma yn Rhondda Cynon Taf. O’r diwedd, mae ‘na rywbeth go iawn i ni gydio ynddo ac edrych ymlaen ato. Rydyn ni wedi bod wrhi ers rhai misoedd yn paratoi’r Rhestr Testunau, gan sicrhau bod blas lleol ar y cystadlaethau cenedlaethol, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb arall yn teimlo’n gyffrous wrth weld pa gystadlaethau sydd ar gael ar eu cyfer y flwyddyn nesaf. Bydd cyflwyno’r gyfrol i’r Archdderwydd yn brofiad arbennig iawn, ac mae cael gwneud hynny yng nghartref yr Eisteddfod fodern gyntaf yn dipyn o fraint.”
Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer y Cyhoeddi wedi bod yn bartneriaeth rhwng Gorsedd Cymru, yr Eisteddfod a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac meddai’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a’r Iaith Gymraeg, “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod yn ôl i Aberdâr ar gyfer digwyddiad y Cyhoeddi, yn ôl i gartref yr Eisteddfod fodern gyntaf erioed.
“Mae’r Cyhoeddiad yn llawn traddodiad ac yn garreg filltir bwysig yn y cyfnod cyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024. Mae digwyddiadau fel hyn, a’r gweithgareddau cymunedol sy’n cael eu cynnal ar draws Rhondda Cynon Taf, yn creu bwrlwm go iawn yn arwain at yr ŵyl y flwyddyn nesaf.
“Byddwn yn annog ein holl drigolion i ddod draw i gymryd rhan; bydd yn ddiwrnod arbennig i bawb.”
Mae edrych ymlaen at y Cyhoeddi ac at gyhoeddi’r Rhestr Testunau‘n gyfle perffaith i lansio’r apêl am wobrau ar gyfer yr Eisteddfod, ac am y tro cyntaf, mae’r gwobrau ar gael i’w harchebu ar-lein. Y bwriad yw ei gwneud hi’n hawdd i unrhyw un gynnig gwobr i gefnogi’r ŵyl. Meddai Helen Prosser, “Rydyn ni wedi cael cymaint o gefnogaeth o bob rhan o Gymru. Mae pobl yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r Eisteddfod yma yn y Cymoedd, ac mae gan gymaint o bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt gysylltiad gyda rhywun neu rhywbeth yn y dalgylch.
“Rydyn ni am i bawb gael cyfle i gefnogi, ac felly rydyn ni’n lansio apêl genedlaethol heddiw ar gyfer y gwobrau. Dyma gyfle i bawb fod yn rhan o’r cystadlaethau a’r dathliadau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd nifer fawr o bobl am gyfrannu’n hael. Mae gennym ni darged ariannol uchelgeisiol, ac rydyn ni angen cefnogaeth Cymru gyfan er mwyn ein helpu ni i gyrraedd y nod.”
Mae nifer o ymgyrchoedd eisoes wedi cychwyn er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian yn lleol. Mae ymgyrch £15 am 15 mis eisoes yn denu cefnogwyr, a gellir ymuno â’r ymgyrch hon ar-lein a chyfrannu arian yn fisol i’r gronfa leol yn y cyfnod hyd at yr ŵyl. Ymgyrch newydd arall yw’r ymgyrch gwobrau mawr. Am y tro cyntaf, mae’r trefnwyr yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i gyflwyno’r prif wobrau, gyda phanel yn trafod a dewis y ceisiadau llwyddiannus.
“Roedden ni’n ymwybodol bod nifer o unigolion, cyrff a sefydliadau wedi’u siomi yn y gorffennol gan eu bod wedi colli’r cyfle i gyflwyno’r Gadair, y Goron neu rai o’n medalau a gwobrau sylweddol eraill, ac rydyn ni’n credu mewn gweithredu mewn ffordd ychydig yn wahanol yma yn Rhondda Cynon Taf. Felly, rydyn ni’n gwahodd unrhyw un i fynegi diddordeb i gyflwyno’r gwobrau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn nifer fawr o geisiadau am yr anrhydedd erbyn y dyddiad cau ar 18 Mai,” yn ôl Helen Prosser.
Ac wrth edrych ymlaen at y Cyhoeddi daw’r cyfle cyntaf i alw am wirfoddolwyr i helpu ar y dydd. Mae’r Eisteddfod yn awyddus i daflu’r rhwyd mor eang â phosibl i ddenu criw o wirfoddolwyr brwdfrydig i fod yn rhan o’r Cyhoeddi yn Aberdâr. Mae’r manylion i gyd ar wefan yr Eisteddfod, https://eisteddfod.cymru/2024-cyhoeddi, a byddwn yn cynnal sesiwn hyfforddi ar gyfer ein gwirfoddolwyr yn ystod yr wythnos hyd at y Cyhoeddi yn ardal Aberdâr.
Ar hyn o bryd mae’r trefnwyr hefyd yn chwilio am drigolion lleol i ymuno â’r pwyllgorau codi hwyl. Y pwyllgorau lleol yma sy’n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod yn eu cymunedau lleol. Mae’r gwaith eisoes wedi cychwyn yn y Rhondda, gyda chyfarfod cyntaf Cwm Cynon i’w gynnal nos Iau, 18 Mai yng Nghlwb Rygbi Aberdâr a chyfarfod Taf yn digwydd yn fuan. Gellir ymuno â’r pwyllgor lleol drwy wirfoddoli yma, https://eisteddfod.cymru/2024-helpu-help.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst y flwyddyn nesaf. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.