ADFEILION
Gardd
Pan fyddi di’n anghofio
bob dydd wrth iti ddeffro,
a phan fydd blodau pêr dy fyd
a’r sêr o hyd yn gwywo,
cawn ninnau gydfreuddwydio
am godi pac i grwydro,
darganfod drws sy’n mynd at ardd
lawn blodau hardd i’n swyno,
a bydd llonyddwch yno
a border bach i’w dwtio
a daw i’r fei hen femrwn map
ar hap wrth inni gloddio,
a’r persawr fydd yn hudo
d’atgofion unwaith eto
ac awn ymlaen â’r siwrnai hir
i’r tir gael ailflodeuo ...
Llys
Wedi’r draffordd a’r ffordd ddeuol,
rhaid pwyllo yn Arberth
i’r ugain milltir yr awr.
Troi i’r chwith
at amlosgfa.
‘Gobeithio nad angladd yw hwn.’
Ie Mam, un arall.
Cawn de wedyn,
cwrdd â chyfoedion,
mynd am dro.
Ac o’r bryn lle bu’r llys,
rwy’n dy wylio’n
chwilio am gof
rhwng y gerddi cymen ...
Ni lwyddaf dy gyrraedd.
Na chwaith dy oddiweddyd
er galw arnat droeon.
Llwybr Taf
I ddathlu’r haul,
awn ling-di-long drwy’r coed,
nes cyrraedd rheilffordd
sydd bellach wedi cau.
Cawn wledda ar fwyar duon,
a chân mwyalchen,
dysgu enwau coed i’r wyrion,
hel atgofion am dy wanwyn
dan wres tonnog y dail.
Ond yn araf
diflanna’r briwsion sgwrs,
aiff y lôn yn gul,
dan gysgod.
‘Mae’n oeri. Gwell troi sha thre nawr.’
At y lawnt blastig
a’r chwyn yn tyfu
rhwng craciau’r patio.
Castell Coch
Ar sgaffaldiau Tŵr y Ffynnon,
mae gweithwyr
yn ceisio atal glaw’r blynyddoedd
rhag treiddio’r meini
a difa’r paent tu fewn.
Awn ninnau at dŵr
wedi ei drin yn barod.
Mentro esgyn
heibio i’r gegin a’r parlwr
at stafell yr arglwyddes.
Synnu at wychder y dodrefn
a’r olygfa dros dir ei phobl.
Ac wrth ddisgyn
tra’n gafael yn y canllaw’n dynn,
‘Des yma ar drip ysgol unwaith,
Miss Jones yn gweiddi arnom
i beidio â rhedeg
rhag ofn.’
Ac yna ...
Bechgyn yn dringo i’r ardd,
Jac yn wylo wrth glywed Cymraeg,
dy fam yn gorffen y gwnïo,
aSolitaire am oriau
yn ddihangfa, yn adloniant
drwy salwch hir plentyndod.
Y pumdegau du a gwyn
yn chwarae mig â’r cerrig
a thithau’n gweld ysbrydion.
Mae’r coesau’n gwegian.
Erbyn mynd adref
dim ond atsain plant yn chwarae
rhwng muriau llaith
sy’n aros.
Mae’r arglwyddes yn ôl yn ei chell.
Pengwern
‘Lle ni’n mynd?’
I wneud dy wallt
i fod yn bert ar gyfer yfory.
Euogrwydd
gwylltio
am orfod ailadrodd. Eto.
‘Lle ni’n mynd?’
I’r lle gwallt ...
Y Dref Wen yn y car ...
Tithau’n cofio.
Ac ymuno ...
‘Lle ni’n mynd?’
Dwi’m yn gwybod, Mam.
Dwi ddim yn gwybod.
Ond rywle, rywdro
mae Heledd
a’i gwallt yn y gwynt
yn canu
am hiraeth, ailadfer, a fflam.
Bae
Y tro cyntaf,
o’ti’n dal i gasglu, hebrwng, gwarchod,
cyn y clo mawr.
A bu protest XR
yn boddi’r strydoedd,
tagu’r lonydd,
tithau ar goll yn dy ddinas dy hun
â gwers gitâr yn y fantol.
Panig. Galwad.
‘Ni ger rheilffordd, goleuadau
a siop.’
Eich ffeindio’n Nhre-biwt,
y ddau fach yng nghefn car
yn drysu’n eu Sudoku,
heb ddirnad
fod y morglawdd ar fin torri.
Adref
Mae dagrau’n diflannu mewn glaw
a dysgu ystyr
mynd adref
yn agor drysau
na wn sut i’w cau.
Dilyn cyfarwyddyd y wefan
i gysuro, arallgyfeirio, nid herio.
Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn
ac mae’n nos,
beth am aros fan hyn?
‘Ond ddim fan hyn fi’n byw.’
Felly cawn baned gyntaf
i baratoi at y daith,
tra’n disgwyl i’r storm ostegu ...
Desg
Ar yr olwg gyntaf,
twmpath dinod oedd y ddesg,
ond o grafu’r wyneb
daw’n amlwg y bu yma damchwa.
Awn ati i gloddio drwy archaeoleg
pob haen
yn fanwl wyddonol
tra bod amser gennym.
Tyrchu drwy dywyrch allbrintiau
pentyrrau papurach,
ysgrifau llawn llwch ...
Darganfod dim
heblaw gliniadur heb blwg.
‘Paid taflu hwnna!’
Palu’n ddyfnach
drwy’r droriau
llawn esgyrn pensiliau,
a chanfod ambell grair –
coeden achau, llythyr caru,
pwt o gerdd, llun Mam-gu.
Prawf y bu yma unwaith
rywfaint o drefn.
Ond ag amser yn brin
cânt eu taflu’n ddiseremoni
i flwch o amgueddfa.
Troi at y waliau –
silff ar ôl silff
o golofnau talsyth,
ffolderi ac anfonebau
gorthrwm yr wythdegau.
Rhain oedd seiliau
crud gwareiddiad,
ac mae amser yn drech.
Fel Buddug,
dinistriwn y cyfan
ar goelcerth y gorffennol.
Cofio
Wrth inni wibio hyd heolydd braf
y wlad, o gestyll a beddrodau Môn,
trwy’r cymoedd a’r blynyddoedd i Landaf,
fe rannwn chwedlau’r teulu – ‘Cofio’r sôn
am hwn a hwn yn teithio yma a thraw,
a hon a hon yn esgor cyn ei phryd?’
Eu Cymru fel hen fap ar gefn dy law
yn wead o wythiennau, pob un stryd
yn arwain i’r fan hyn. A nawr fy swydd
yw creu o’r memrwn map fy map fy hun,
cyfeirlyfr i fy mhlant i’w gwneud hi’n rhwydd
i gwrdd â’r cenedlaethau, un wrth un,
cyn aiff y llwybrau’n wyllt, cyn colli’r tro,
cyn imi orfod chwilio am fy ngho’.
Dre
‘Awn ni nôl i’r hen le?’
Mae’r hen le wedi hen fynd.
Ond dwi’n cofio’r ceir yn gyrru lawr Stryd Llyn,
y glaw’n llysnafedd hyd y lôn,
a bois Maesincla’n taflu
bangers i dŷ bach
tu ôl y lle Chinese,
yn chwerthin wrth roi ofn
i blant y pentre’ posh.
Y cerdded di-ben-draw
o gylch y Maes
gan nad oedd dim i’w wneud
na lle i fynd
heblaw Pwllheli,
oedd yn waeth.
Ac os oedd rhywun yn wahanol
yn digwydd bod yn Goth neu’n gay,
arferiad oedd y gweir neu’r glustan,
y rhegi cyson ger y cei.
Does dim eco Cofi yn dy lais
na llun o’r tŷ lle’m magwyd
dim ond niwl
o brotestiadau CND,
nosweithiau Gwener yn y Goat,
wynebau un neu ddau yn syllu’n syn,
a tharth y glaw
yn chwythu lawr Stryd Llyn.
Hwiangerdd
Pump y bore.
Adfeilion cwmwl
yn hofran uwch gobennydd,
diffyg cwsg
ar garlam drwy wythiennau,
gofidion ddoe’n
troi a throsi
ym mhlygion duvet,
meddwl yn garbwl i gyd.
Cofio ofn
bod d’angen di
fel wyt ti nawr f’angen i.
A rhwng y deffro a’r pendwmpian
mae hwiangerddi’n mynd a dod.
‘Si hei lwli ’mabi ...’
Nos da, Mam.
Codi. A sgwennu.
Cerdd
Nid cerdd mo hon
ond darnau bach o sêr,
petalau
ar ddalen wen,
rhag ofn.
Nid fi yw hwn
ond cread atgof
na fu fyw
heblaw ym mwrlwm
meddwl plentyn.
Nid pen y daith mo hyn
ond dechrau agor
drysau
at lonyddwch
neu ddim byd.
Nid hi yw hon
ond cysgod cariad
a fu erioed,
a fydd am byth.
‘Adref?’
Llif 2