27 Apr 2025

Cynhaliwyd cyfarfod o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ddoe (26 Ebrill)

Yn dilyn trafodaeth, bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr fod penderfyniad beirniaid yn derfynol yng nghystadlaethau’r Brifwyl ac nad oes hawl i ymyrryd yn y penderfyniad na’r broses feirniadu. Yr unig eithriad fyddai mewn achos o dorri rheol cystadleuaeth neu dwyll.

Cytunwyd yn ychwanegol y dylai’r Bwrdd, ar y cyd â’r Cyngor,  ymchwilio i’r posibilrwydd o ddiwygio rheolau ac amodau cystadlaethau a/neu Reolau Sefydlog yr Eisteddfod.

Mae canllawiau newydd i feirniaid, ynghyd â rheolau ac amodau diwygiedig eisoes wedi’u cytuno gan y Pwyllgor Diwylliannol, y Bwrdd a’r Cyngor ers Eisteddfod 2024.

Mae beirniaid Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eisoes wedi derbyn y canllawiau newydd, a bydd y rheolau ac amodau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi yn Rhestr Testunau Eisteddfod y Garreg Las, a fydd ar gael yn dilyn seremoni’r Cyhoeddi ddydd Sadwrn 17 Mai.

Cytunwyd mai’r flaenoriaeth yn awr yw canolbwyntio ar sicrhau bod y timau lleol yn Wrecsam ac ardal y Garreg Las yn derbyn pob cefnogaeth er mwyn llwyddo.