Dros y misoedd diwethaf mae panelau testunau’r Eisteddfod a Phwyllgor Diwylliannol y Brifwyl wedi bod yn adolygu a diweddaru’r canllawiau i feirniaid yr ŵyl o 2025 ymlaen
Mae’r canllawiau newydd yn fyw ac yn weithredol erbyn hyn.
Meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod, “Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses i ddiweddaru’r canllawiau dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi gwerthfawrogi’r cyfle i graffu arnynt gyda’r arbenigwyr ar ein pwyllgorau a’n panelau.
Bu'n ymarferiad pwysig a defnyddiol, er mwyn sicrhau bod ein holl ganllawiau beirniaid yn addas ar gyfer Cymru heddiw.
Bu’n gyfle i ni atgyfnerthu’r neges mai’r beirniaid yn unig fydd yn penderfynu ar deilyngdod mewn unrhyw gystadleuaeth ai peidio."
“Yn sgil y broses rydym hefyd am gyflwyno gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i feirniaid sydd angen cyngor pellach ar ddarn o waith sy’n debygol o ddod i’r brig mewn unrhyw gystadleuaeth.”
1 Ebrill yw dyddiad cau cystadlaethau cyfansoddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, ac mae’n rhaid cofrestru ar gyfer cystadlaethau llwyfan erbyn 1 Mai.
Mae’r holl gystadlaethau a’r ffurflenni cais ar gael ar-lein, www.eisteddfod.cymru.