12 Dec 2024

Llythyr ar ran Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod, gan Ashok Ahir, Llywydd y Llys a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli

Diolch i’r rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr agored at Gyngor a Bwrdd yr Eisteddfod. 

Rydym yn gwerthfawrogi fod y penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama’n parhau yn bwnc llosg i nifer. Rydym wedi gwrando yn ofalus ar y feirniadaeth sydd wedi ei gylchredeg yn barod, ac yn derbyn na fu i’n datganiadau cynt leddfu gofidiau nifer o bobl am y penderfyniad. 

Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod, a’r Bwrdd yn unig, sydd yn gyfrifol am y penderfyniad hwn. Ni ddylid felly beirniadu unrhyw wirfoddolwyr sy’n ymwneud â’r Eisteddfod nac ychwaith y staff. 

Isod ceir ymateb i’r ddau fater a godwyd gennych chi. 

Y Symposiwm Rhithiol 

Cynhaliwyd y Symposiwm Rhithiol yn Nhachwedd eleni i drafod cynrychiolaeth yn y theatr yng Nghymru, ac i geisio edrych ymlaen at y dyfodol. 

Mae’n ddrwg gennym os nad oeddech yn teimlo i chi gael mynegi eich barn yn y digwyddiad. Roedd cyfle i bobl ofyn cwestiynau drwy’r ffordd arferol o fewn Webinar drwy gydol y sesiwn, ac fe wnaethpwyd hyn yn glir fwy nag unwaith yn ystod y noson. Ni rwystrwyd unrhyw berson rhag gwneud sylwadau na chodi cwestiynau ar unrhyw bwynt. Roedd pob sylw a chwestiwn yn weledol i’r panel. 

Mae’n werth hefyd nodi mai ychydig iawn o’r rheini sydd wedi llofnodi’r llythyr agored (llai na 8%) oedd wedi cofrestru ac felly wedi mynychu’r Symposiwm. 

Roedd y Symposiwm yn gyfle i godi nifer o egwyddorion pwysig sydd hefyd wedi’u trafod gan ein panelau a’n pwyllgorau wrth ddiwygio ein prosesau, rheolau a’n hamodau o ran y cystadlaethau. Yr ydym yn credu y bydd yr egwyddorion hynny yn rhoi hyder i gystadleuwyr, beirniaid, a charedigion yr Eisteddfod a’r theatr yng Nghymru pan eu cynhwysir yn ein canllawiau a’n prosesau ar eu newydd wedd. 

Y modd yr ymatebodd yr Eisteddfod i’r hyn ddigwyddodd eleni 

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw ofid a grewyd oherwydd ei bod yn ymddangos fod yr egwyddor o gystadlu o dan ffugenw, ac yn y dirgel wedi ei danseilio am resymau annilys,  diangen, neu oherwydd sensoriaeth, gan yr Eisteddfod. 

Nid felly yr oedd pethau. Daeth consyrn cwbl ddilys a di-gynsail i’r fei a oedd yn cyfiawnhau’r angen i ni wneud ymholiadau pellach. Yn dilyn hyn, penderfyniad y Bwrdd oedd arfer eu hawl i atal y gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd er gwarchod pawb ynghlwm â hi, ac er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad. 

Bu inni ymddwyn yn unol â rheolau ac amodau'r Eisteddfod wrth gymryd y cam hwn. Rheidrwydd oedd gweithredu fel y gwnaethom,  oherwydd ein dyletswyddau fel ymddiriedolwyr er lles yr elusen, ac uniondeb y broses gystadlu.  

Fel y nodwyd ym mis Awst, ein dyletswydd yw sicrhau bod canllawiau priodol gennym i osgoi sefyllfaoedd o’r fath rhag codi yn y dyfodol.