Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Cyllid profiadol i ymuno â ni mewn rôl newydd sbon, i weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithdrefnau ar bob agwedd o reoli cyllid.
Byddwch yn gyfrifydd gyda chymwysterau proffesiynol yn y maes, a chyda sgiliau rhifedd a dadansoddi cryf.
Byddwch hefyd yn gallu meddwl yn greadigol a hyblyg, a bydd gennych brofiad o weithredu strategaethau masnach i gynyddu incwm corff neu sefydliad.