Pryddest neu gasgliad o gerddi,
hyd at 250 o linellau: Atgof
ATGOF
I Tad-cu ac i’r Cwm
olwyn
Ga’ i weld y Cwm drwy’r llygaid hyn o hyd? –
rhai dyflwydd glas mewn bygi, llais Tad-cu’n
fy ngwthio ’mlaen, ei fwydro’n mowldio ’myd
un stori ar y tro. Consuriai lun
â’i alaw broletaraidd-browd, chwyldroi
diflastod pentre’n lle llawn chwedlau coeth,
rhoi hanes, hanfod yn y pridd a throi
olwynion plastig fy nychymyg poeth.
Ac er i’w feddwl gilio’n dawel bach
dros ael y bryn, mor ddi-droi’n-ôl â’r haf,
ac er i’r llwybrau hudol dyfu’n strach
o chwyn a gwrychoedd gwyllt, ar ddiwrnod braf
fe awn drwy’r bröydd hyn fel ag o’r blaen:
Tad-cu’n ei gadair, minnau’n gwthio ’mlaen.
12.8%
Mae’n boenus, bron, ddychmygu’r iaith yn drwch
drwy’r strydoedd hyn: murluniau ‘Cofiwch Donypandy’
yn amlhau drwy’r Cwm, a Newyddion yn anfon eu gohebwyr
i Bont-y-gwaith i ffilmio vox pops Cymraeg, heb fod eisiau
trafeilio i Bontrhydfendigaid. Achos byddai’r miliwn
yn trigo yma: yn Rhondda Fach a Rhondda Fawr;
yn Llwynypia fe drefnid pwyllgorau i drafod tranc
truenus yr heniaith yn Abersoch (a chawn deimlo’n smyg
o saff na ddeuai tai haf i wledda byth dros y patshyn
pathetig hwn o Gymru). Ac mae’n greulon, ydy, ddychmygu
bymper sticers ‘DYMA GAMWEDD’ yn meddiannu’r
meysydd parcio, cymdogion dros eu cloddiau yn rwdlan
yn rhythmau Rhydwen, a’r bechgyn yn y bys-stop yn cellwair
yn acen Christine ... achos onid felly y dylai fod? Bu yma gartref,
unwaith, i’r Gymraeg; bu iddi gadarnle
mor gynhenid â’r lympiau duon a fu’n swatio
yn Nhrealaw a Threherbert, Bodringallt a Groes-faen,
Naval Colliery, Lady Windsor, Tylorstown No. 9.
Blaenllechau, Tachwedd 1867
Hynny’n blygeiniol oedd y ddefod greulonaf:
sychu ei ddagrau, yna’i hel yn araf
drwy ddrws y gegin i’w osod ar y daith
dair milltir i’r gwaith. Ei mab ieuengaf.
Trwy ffenestr y llofft fe’i gwyliai’n diflannu,
ei gwdyn dros ei ysgwydd, ac am eiliad ei ddychmygu
wrth ddesg yn y dosbarth neu’n rhedeg drwy’r coed,
yn ddeuddeg mlwydd oed. Mae’r gwynt yn cynhyrfu ...
A heno ger y pentan mae’n cnoi ei hewinedd,
yn dal i ddisgwyl ei gnoc yn y cyntedd
a gwres ei wên yn llamu drwy’r gât,
fel fflam yn y grât. Fel coelcerth mis Tachwedd.
Griffith Morgan
(neu Guto Nyth Brân)
Dwi ddim yn honni nad oedd
e’n gyflym: mae’n siŵr y câi bedwerydd
anlwcus yn yr Olympics heddiw, a phawb
’nôl adre’n gwallgofi o flaen sgrin.
Fe drefnid bws awyr agored iddo
o amgylch Aberpennar, ac ambell i fardd
yn llunio pwt o englyn i leddfu’r siom.
Ac yna’r bywyd braf: Gwisg Las
am ei gyfraniad i’w gamp, gig cyflwyno
ar soffa Heno, a phan syrthiai i’r palmant
â’i law’n crafangu am ei frest –
a rhywun yn nhyrrau Golwg
wrthi’n trefnu’r obit –
ar amrantiad fe ddeuai Siân o’i siop
â dîffib yn ei dwylo i’w synnu allan o fedd annhymig.
Ac fe gâi ei fywyd braf
a normal
yn ôl.
Ond beth pe bai’r gaea’n llwyd a’r wlad yn llwm
a dim rhyw lawer i’w wneud liw nos
ond sibrwd straeon am ŵr ag enw catchy?
Beth pe bai iaith yn ddigon i roi grymoedd
gwirion i grwtyn ffarm – beth pe chwyddent
dros ddyffrynnoedd, dros ddegawdau,
hyd nes y codid delw yn ei enw?
Beth pe ysgrifennid llyfr amdano?
Pe bai’r awyr yn anferthol a’r sêr yn arwain i unman
ond bod ’na lanc o Lwyncelyn
yn foddion cyflym i’r cwbl,
oni fyddech chi, hefyd,
yn credu?
Maerdy, Mawrth 1984 – Mawrth 1985
Roedd ei frecwast eisoes ar y bwrdd ar y bore
cynhyrfus cyntaf hwnnw: bacwn ac wyau, a’i hymrwymiad
wedi’i daenu’n dew dros ddwy dafell
o dost. Tu allan: y gwanwyn yn ymegnïo.
Aeth hi ati i hongian ei oferôls ar y lein
a gwylio’r gwynt yn eu chwipio i fyny, yn faner
feiddgar dros y terasau. Yn y pellter: y Pwll
ynghau. Erbyn yr haf, roedd ganddi ei baner
ei hun – un a gariai’n stryffaglus i’r llinellau piced,
drwy’r pentrefi – ac a hyrddiodd drachefn
at y dynion glas â’u batonau gloyw. Oedd,
roedd cymuned yn fan hyn – hi a Betty a Nora
a Jane ac Eirwen – fraich ym mraich dan ffwrnais
ffyrnig Mehefin, yn poeri eu llid ar y llinell
flaen, yn pacio parseli yn y gegin gefn; ynddynt
roedd gobaith, buddugoliaeth, sleisen o chwaeroliaeth
i’w cynnal trwy fisoedd hirfaith yr hydref. Ond
daeth y gaeaf mor ddirybudd â’r beili
at ei drws – heb gnoc, heb groeso – a’i adael
yntau’n dalp disymud yn y gwely; rhedodd
hithau fàth ar ei gyfer, ac â dwylo gwydn,
cloddiodd y tyndra o’i gorff. Tu allan: y rhew ar y bryniau’n
dadmer yn dawel. ‘Bydd hi’n wanwyn eto cyn hir ...’
Syllodd am yn hir arno’i hun yn y drych un bore
o Fawrth, ei oferôls yn lân, rhy ffiaidd o lân
amdano. A chyn ffeirio’i styfnigrwydd am fandrel
a rhaw, cyn i’r caets ei wysio’n ôl i’r düwch
di-ben-draw, roedd hi yno’n ei ddisgwyl
yn haul y gegin, ei breichiau’n agor
fel blodyn newydd. A’i frecwast ar y bwrdd.
orrait luv?
Dyma’r lle ola’n y byd y cewch chi
ddweud love heb gael eich canslo (neu dyna
shwt mae’n teimlo), a phwy all ein beio –
â’r mynyddoedd mawr ’ma
rhyngom ni a gwareidd-dra (wel, Caerdydd) –
am fod yn philistiaid mor fisoginistaidd?
Does dim apocalyptaidd yn y darfod
dyddiau hyn: dim methan yn barod
i danio, na thipiau’n rhuthro
tua’r pentrefi ... mae’n dawel
fel capeli (diolch byth). Yn drist –
ond ddim yn drasig – fel llyfrgell
arall yn cau.
A thra bo’r byd yn newid siapau
mewn mil o danchwaoedd mân,
yma y byddwn ni yn ddigyfnewid.
Y glaw sydd yn y cymylau
a’r glo sydd dan eich traed.
Yma y byddwn ni, am fod rhaid
cael rhywbeth i’w wneud: felly
pam ddim bwrw gwreiddiau yn y tir
fel gwnaeth ein tadau; codi tŷ, magu teulu?
Pam ddim, drwy’r llanastr
a’r darfod a’r distryw i gyd –
pam ddim jyst caru?
fy mhobl
... nid ei fod mor rhwydd â hynny,
bob tro. Caru, hynny yw.
Ddim yn yr ysgol, lle’r oedd dwylo’n
cydio’n dawelach na chyfrinach
dan y bwrdd, a chywilydd
y gusan gynta’n chwarae cuddio tu ôl i’r coed.
Ddim yn festri oer yr Ysgol Sul
nac ar y pitsh pêl-droed, lle’r oedd
tadau’n slyrio’u sylwebaeth
yn groch o ochrau’r cae, a phob
pàs sâl, pob tacl tila’n
gay as hell.
O wel. Roedd jengyd i’r brifysgol
fel teimlo’r awel ar fy nhafod
wedi oes o gropian gofalus
trwy fryntni’r siafft: ces yno’r
iaith i dyfu’n ddyn, y wefr
o weld fy hun mewn llyfrau
nas astudiwyd gennym yn yr ysgol.
Ac am eiliad lachar, lân,
ces gredu ’mod i ’di cyrraedd pen draw rhyw daith ...
Ond dwi’n dal i ddeffro yn y nos ambell waith
â hen artaith yn hwteru’n watwarus yn fy nghalon.
Dwi’n dal i gofio’r inc ar ddesgiau’r dosbarth
fu’n adrodd fy ffieidd-dra, yn dal i roi cip dros fy ysgwydd
wrth ruthro heibio’r terasau cul, achos
oes, weithiau, mae arna’ i ofn
fy mhobl fy hun.
new-moconiosis
Tŷ Eirin, Ebrill 2020
Mewn cartre gofal tawel
uwch llyn ym mhen draw’r Cwm,
dan gysgod pwll a chwarel
mae llygaid duon, llwm,
yn mwytho’r llun sydd ar y seld
o’r teulu fu un tro’n ymweld.
Trwy’r waliau tamp o’i gwmpas
fe ddaw yn araf bach,
fel glo yn ildio i’r bicas,
fel llwch drwy’r awyr iach,
ryw gof am ogof fyglyd gynt
sydd heddiw fel se’n cael ail wynt.
Fe ddaethom yn ein galar
mewn masgiau gleision, glân
ar ôl i’r caets dan ddaear
gau’i ddrws a symud mla’n ...
cans bu, mewn cartre ’mhen draw’r Cwm,
ysgyfaint tyn,
anadlu trwm.
y dyn yn y gym
Mae e’n holi be dwi’n wneud
a dwi’n cochi. Fel gyrfa? Eistedd
mewn swyddfa. Dwi’n tynnu’n siwt yn swil
a’i hongian mewn locer, addasu fy acen,
ac esgus bod baldorddan di-bants yn beth normal
i finne, hefyd. Roedd e’n arfer gweithio yn y ffatri
heibio’r nant, yr un a drodd yn ganolfan chwarae
i blant ac yna’n
ddim – falle ’mod i’n ei chofio? Dwi ddim,
ond dwi’n nodio ’mhen yn bendant. Nawr,
o embaras, rhaid ei osgoi am weddill y sesiwn.
Amhosib: mae ym mhobman dwi’n mynd,
yn swagro’n stereoteip absẃrd o stafell i stafell,
lle mae’r peiriannau’n aros yn ufudd amdano,
yr haearn yn gynhaliaeth gyfarwydd yn ei ddwylo.
Dwi’n dianc, ond dyma fe eto –
gyda’r degau o fechgyn cyhyrog, cyfeillgar,
sy’n chwysu, crio, rhuo o flaen y drychau,
yn cario pwysau dychrynllyd ar eu sgwyddau, ar goll
yn rhywle tu ôl i’w clustffonau. Yma,
lle dyw’r gwaith byth yn stopio, maen nhw’n gosod
mat ar y llawr a phenlinio ...
cyn troi, un
ar y tro, yn ôl
am y cawodydd cymunedol.
datgloddio
O dan y petalau sy’n petruso yng ngolau gwan y gwanwyn,
o dan y perthi a’r danadl poethion, y coed a’r chwilod a’r chwyn,
fe’u clywaf, y coliers, yn eu miloedd,
eu rhythmau’n esgyn drwy’r blynyddoedd
i lesni di-ben-draw’r mynyddoedd hyn.
Ac fe’u dychmygaf, wedi’r shifft, yn codi eto o’r siafftiau.
Cyn dyfod peilonau dur: cymuned yn cyd-gerdded dros gae.
Ac fe’u synhwyraf wrth droed y mynydd
yn dychwelyd i glydwch aelwydydd,
neu’n cloncan yn y clwb tan amser cau.
Ond doeddet ti ddim yno pan drodd y gyfeddach yn gyflafan,
pan ffrwydrodd y nwy ar y ffas, a’r seirenau’n crochlefain dros bob man.
Welaist ti mo wragedd Senghennydd,
y pesychu coch ar obennydd,
a chleddaist ti mo’r eirch yn Aberfan.
Felly cerdd yn dy flaen dros y caeau gwag, gwastadol,
a gad hi ymhle y mae, y gymuned ogoneddus, ffôl;
o ramant dy bresennol,
â’th gerddi a’th radd brifysgol,
does gen ti ddim o’r hawl i’w heisiau’n ôl.
ar lan y môr ym Mhorthcawl
ar ôl angladd Tad-cu
Mae hi’n anodd edrych ar y môr a gweld
dim ond môr; mae metaffor
yn wylofain y tonnau,
pathos yn nygnwch tawel eu parhad.
Des yma un tro’n chwilio am farwnad,
eistedd ar graig ac aros am gerdd
i gael ei sgubo’n ddidrafferth i’r traeth ...
Ond y cwbl ddaeth oedd llond broc o emosiwn, dirnadaeth
mor anferthol, mor ddiaddurn â’r traeth
ei hun: nad wyt ti yma mwy, ddim
yma mwy, ddim
yma.
Ac mae hi’n anodd esbonio pan na allaf edrych ar y fro
lle’m ganed a gweld dim ond bro,
bro sydd ar drai o hyd, ond bro
lle ces fy nghamau cyntaf, fy nghusan gyntaf, fy nghyflog cyntaf.
Bro anhynod yn llygaid hanes,
fe wn, ond bro sy’n llawn ohonot –
ym Mlaenrhondda, Blaencwm, Cwmbach –
y llefydd y buest tithe’n ifanc ynddynt unwaith,
yn plymio’n feunyddiol i berfeddion Annwn
â dim ond helmed, lamp a’r freuddwyd
y câi plant dy blant, un dydd, redeg
dros irder y tir rhag dy dynged ...
Â’r awel hallt ar fy wyneb, rhois y pensil yn fy mhoced
a gwylio ’ngherdd yn boddi yn yr eigion: mae ’na bethau
na all barddoniaeth mo’u cyfleu, ond mae
hynny’n iawn. Mae hyn yn ddigon.
Samsa