Ty Gwerin -  Brwydr y Bandiau Gwerin

Llongyfarchiadau mawr i Rhiannon O'Connor, Cadog, Elin a Carys a Rhys Llwyd Jones am gyrraedd y rhestr fer o fandiau fydd yn brwydro am deitl enillwyr Brwydr y Bandiau Gwerin eleni. 

Mae ychydig o hanes am y perfformwyr ar gael isod, yn ogystal â chyfle i wylio perfformiad o waith y cystadleuwyr. 

RHIANNON O’CONNOR

Rhiannon O’connor yw’r unig artist eleni bydd yn cystadlu am yr ail dro, gan iddi gyrraedd rownd derfynol y
Frwydr Gwerin llynedd hefyd. Yn wreiddiol o Sir Gâr, mae cerddoriaeth Rhiannon yn fodd iddi fynegi ei
hun yn greadigol, wedi’i hysbrydoli gan ei theulu a’r bywyd cefn gwlad maent yn byw. Gyda pherfformiadau
byw amrwd a theimladwy, mae hyder Rhiannon yn ei cherddoriaeth ond wedi cynyddu ers perfformiad
llynedd yn y Tŷ Gwerin.

CADOG


Dau frawd o Gaerdydd sy’n ceisio dod â hwyl i’r sîn gwerin Gymreig yw Cadog. Er bod Iestyn a Morus yn
gyfarwydd i rai fel aelodau o’r grŵp roc Ble? roedd awydd ganddynt i arbrofi gyda genre ychydig yn
wahanol. Gyda gitâr acwstig a sacsoffon yn ganolog i sain y ddeuawd, mae enwau gwerin gyfoes Cymru fel
No Good Boyo yn ysbrydoliaeth fawr. Gyda’r gobaith o deithio i wyliau gwerin ryngwladol gyda’u
cymysgedd o eiriau doniol, alawon bachog ac ychydig o glocsio, bydd Cadog yn siŵr o godi hwyl yn y Tŷ
Gwerin eleni.

ELIN A CARYS


Yn wreiddiol o Faldwyn, mae cerddoriaeth gwerin yn y gwaed yn nheulu Elin a Carys, y ddwy chwaer sydd
wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni. Gyda’u tad yn aelod o Plethyn, magwyd diddordeb mewn
cerddoriaeth acwstig gan y merched, ac roedd dechrau perfformio fel deuawd yn gam naturiol iddynt. Wedi’u
dylanwadu gan Lankum, mae naws Cymreig a rhyngwladol gref i’w caneuon, bydd cymysgedd o
drefniannau a chaneuon gwreiddiol, a harmonïau cywrain Elin a Carys yn sicr o’ch hudo

RHYS LLWYD JONES


Wedi bod yn cyfrannu i’r sîn gwerin yn gyson dros y blynyddoedd, gan gynnwys fel aelod o Art Bandini,
mae Rhys Llwyd Jones bellach yn ennill ei blwyf fel cerddor unigol. Wedi rhyddhau sawl record, bydd Rhys
yn chwarae caneuon gwreiddiol hen a newydd yn fyw am y tro gyntaf ers sbel yng nghystadleuaeth eleni.
Gan weithio gyda’i ffrindiau Siôn Russell Jones o Angel Hotel a’r cynhyrchydd amryddawn Frank
Noughton, bydd cynnyrch newydd Rhys yn cyfoethogi’r catalog torieithog sydd ganddo yn barod