Below is Gwion Hallam's winning poem from this year's Crown competition.
TRWY DDRYCH
Elwyn, cartref dementia Bryn Seiont
‘Pwy ydach chi?
Beth? Pam ydach
chi? Sut?’
‘Dw i yma i wrando. Wir, ar fy ngair.
Yma i glustfeinio am gân.’
‘Pres dach chi isho!’
‘Dw i’n fardd, dyna i gyd -
yma i ganu eich byd.’
‘Ond mae popeth yn costio
a geiriau fel aur;
dw i’n cwffio i’w cadw
fel mae.’
‘Dw i’n chwilio am gerdd -
dim mwy a dim llai -
eich geiriau sy’n drysor i fi.’
‘I’w dwyn nhw?
A’u troi nhw!’
‘I’w gwario nhw’n gall a’u cadw
nhw’n saff am y tro.’
‘I’w cofio?’
‘Am byth. I’w gweithio nhw’n gerdd
ac adrodd eich stori am oes.’
 gwên Mona Lisa mae’n codi ei bawd
a mynd ato i fentro ei llaw.
‘Lilian dw i. Ond Lili Wen Fach
mae Mam yn fy ngalw -
fe ddaw hi’n y munud.
Mae’n hwyr.’
Y bardd sy’n mynd ati gan feddwl pa mor hwyr yw ei Mam erbyn hyn!
*
Ei llygaid pysgod aur sy’n ei bradychu,
fel un nad yw’n adnabod neb
yn iawn.
‘Lili Wen Fach roedd Mam
yn fy ngalw - wnes i ddeud
hynna do?’
‘Ond mae werth ei ddeud eto,’
meddai’r bardd wrthi’n glên
gan sgwennu pob gair erbyn hyn.
‘Ond tydw i’m yn …’
‘Beth?’
‘Chi’n gwbod, yn … hynny!
Tydw i’m yn …
llai nag yr ydw i.’
Mae’n troi at y wal a’r dagrau sy’n cronni.
Ond yna, a hithau’n rhoi’r gorau i boeni,
y gair sy’n dod heibio i’w chnoi.
‘Bach oedd y gair.’
‘Dw i’n gwbod, mae’n iawn.’
‘Rhai bach ydy’r gwaetha! Y lleia ohonynt
sy’n syrthio drwy’r tylla fel blawd.’
Y bardd sy’n rhoi gwên,
a Lili sy’n sylwi.
‘Ia rhowch hwnna i lawr yn eich cerdd.
Y fi, nid y chi, ydy’r bardd!’
A Lili sy’n canu cyhoeddi i’r byd ei bod hi
yn hardd.
‘Yn fardd,’ meddai’n syth gan wrido
at ei gwallt a rhyw fath o ddawnsio’n y fan -
cyn stopio yn stond a throi at y dyn
fel un nad yw ’rioed wedi ei weld.
‘Pwy ddiawl ydach chi?
Sut ddaethoch chi?
Pam?’
‘Dw i’n fardd, dyna i gyd a dim mwy.’
Lili sy’n codi ei haeliau
gan ddweud,
‘Ond beth yw eich gwaith go wir?’
*
Fy ngwaith yw achub iaith.
Nid sgwrs bob dydd
y mynd a’r dod gan rai
sy’n bradu eu geiriau’n rhad,
ond odlau prin y rhai fel hi
sy’n byw ar friwsion sgyrsiau
ddoe, yn brwydro i ddal pob sill.
Fy mraint yw ffeindio’i chân.
Yng nghanol static llwyd
ei chof clustfeinio a wnaf
am nodau glân, adnabod sŵn
ei straeon hi a’u trefnu eto’n
gân i’w chanu’n gry’.
Fy nghrefft yw adfer llun.
O’r darnau mân yng nghraciau’r
cof fe luniaf gerdd sy’n ddrych
i ddoe, gan adlewyrchu ei bywyd
crwn yn gofnod gwir am byth;
ailffurfio Lili’n ffrâm y gerdd
cyn iddi chwalu’n llwyr.
*
‘Duw Duw - mae bardd y byd yn ôl.’
‘Dw i yma i gyd!’ Ac yn hapus
ei bod yn ei gofio.
‘A finna’n gofidio
eich bod wedi dal y dementia!’
‘Dw i wedi bo’n gweithio.’
‘Ond dyma eich gwaith.’
‘Ac wythnos, os hynny, sydd ers fi fod yma.’
‘Dyna chi’n ddeud! Mae’n teimlo fel oes.
Hen ddigon o amser i newid fy meddwl.
I’w golli yn llwyr!
Efallai eich bod yn rhy hwyr
i fy achub i rŵan!’
Y bardd sy’n mynd ati gan estyn
am sedd, ond cyn iddo ofyn
am eistedd i lawr Lili sy’n sefyll
a llenwi’r ystafell â’i llais:
‘rŵan
gwrandwch a
gwenwch dw i’n tynnu
dy droed paid disgwl fi stopio
na chofio pob dim ond roedd Dad yn
pregethu i ni gofio Tryweryn a Mam
oedd yn deutha fi gofio gwraig Lot
fel y teachars yn disgwl fi gofio yn
rysgol sawl ‘s’ sy’n Llanelli
fel Andrew y swot
wnaeth drio fy
swsio fi
gynta
- ond hei pam nad wyt ti’n sgwennu?’
‘Dw i methu dal fyny!’
Y bardd sydd heb estyn ei bapur.
‘Wedyn ti isho fo eto mae’n rhaid
fod dy ben di’n rhy slo fel oedd Dad yn
pregethu ac yn perthyn i’r Blaid gyda’i wraig Lot
rhy brysur ac yn boddi ar ei thraed yn afon Tryweryn
a Miss isho dysgu ni ddeud Mississippi ond pawb methu
spelio na’i swsio fo i lawr fel dw i’n gneud hefo enwa dw i’n
golli a’u sgwennu a’u crafu nhw i lawr nes wedyn anghofio
lle ddiawl wnes i eu rhoi ac yn colli y papur ac mae’n torri
fi’n ddau mod i’n methu â chofio y plant wnes i eu geni
ond eto’n cofio am y dyn wnaeth eu gadal nhw lawr
a dw i’n ysu i anghofio am y diawl ond yn methu o
achos mai bardd oedd y gŵr oedd yn rhaffu ei
odla a’n charmio ni i gyd nes y cafodd
o drawiad wnaeth stopio pob dim
a dangos y drwg yn
ei galon.’
Y bardd erbyn hyn sy’n llawn ysgrifennu.
I be? Di o’m yn siwr. Ond mae’n llenwi ei bapur â sŵn.
‘Bardd oedd y gŵr?’ mae’n holi wrth wneud.
‘Na, electrisian.’
‘Ac mi gafodd o drawiad?’
‘Na! Cariad!’
Y bardd sy’n rhoi’r pensel a’r papur i lawr.
Yn syllu ar Lili mewn syndod.
‘Ydach chi’n gwrando?!
Fel yna oedd y gŵr -
yn dewis ei glustiau’n ofalus.’
Dal i syllu mae’r bardd. Wedi drysu yn lân?
Yn methu â gwneud dim ond rhyfeddu at awen dementia.
‘Be wnewch chi rŵan?
Oes gynnoch chi wraig?
Chi ffansi dod adra efo fi?’
*
Mae’n hwyr - rhy hwyr? -
mae’n hanner nos
a’r bardd sy’n tynnu gwallt ei ben
wrth drio plygu ei geiriau gwyllt
i’r gerdd:
‘Lili! Dewch, lle ydach chi?’
Dw i yma yn y bylchau.
Yn cuddio rhwng yr odlau.
Ond chwilio am frawddegau llawn mae’r bardd - ei hanes hi:
‘Lili fach, pryd oeddech chi?
Does neb am eich adnabod!’
Dyma fi! Fy llais yn gry’ -
dw i yma yn dy ben.
Ti’n deud dy fod yn fardd -
wel ty’d, cyn bydd hi’n wir Amen!
Yn ôl a ’mlaen drwy oriau’r nos
y bardd sy’n colli ffydd:
‘Lili wen, mae’n rhaid chi wneud fy ngwaith yn haws, dw i’n pledio.
Dewch i’r golau am funud fach,
i’r geiriau allu gwawrio.’
Ond dyma fi! Dw i yn dy law
yn dawnsio’n dy nodiadau,
dilyn rhythmau blêr y sgwrs -
dw i yno rhwng y nodau.
*
Fy ngwaith yw dangos Lili
fel y mae. Nid stumio’i hiaith
i gofio ddoe, na thrwsio’r
darnau sydd ar chwâl,
ond gweithio cerdd sy’n
ddathliad gwir o iaith
ei heddiw hi.
Fy mraint yw gwrando
ar ei chân, rhoi clust
i rythmau ei chalon ddofn,
a gweithio cerdd o’r curiad
glân i’w chanu
gyda hi.
Fy nghrefft yw peidio â bod!
Anghofio am f’amheuon gwag
a gadael llif ei golau gwych
i dreiddio craciau’r cof -
codi drych i’r gerdd
sydd ynddi hi.
*
Fel dyddiad geni un o’i blant
neu’r cant a mil o ffeithiau bach
di-nod ym mhlygion iach ei gof
daw cod y drws yn ôl i’r bardd -
un naw saith tri - mor rhwydd.
‘Oes wythnos? Pythefnos?’
‘Mis,’ meddai’r nyrs wrth ei
arwain i’w llofft. ‘Tydi beirdd
ddim yn betha rhy brydlon!’
‘Ga i eich rhybuddio cyn agor y drws,
fe welwch ei bod wedi mynd.’
‘I lle?’ meddai’r bardd.
‘Chi’n gwbod lle fydda i os
byddwch fy angen. Diffoddwch
y golau wrth fynd.’
Argraff ohoni sydd yno ar y gwely.
Mae’r bardd fel pe’n chwilio amdani.
‘Lili?’
Dim byd.
‘Lili?’ yn uwch. Ond i ddim.
Mae’n rhegi ei hun am na alwodd ynghynt; yn dyheu iddi ddeffro o’i chwsg.
Mae’n camu at y gwely i gyffwrdd â’i llaw,
a Lili sy’n agor ei llygaid.
‘Lili, dw i nôl!’ Y bardd sy’n cyffroi.
‘Dw i yma i ganu eich cerdd.’
Mae’n syllu reit drwyddo.
Y nyrs oedd yn iawn.
Nid yw yno.
Sŵn amser yn gwrando.
Y bardd sy’n dweud dim,
a thawelwch trydanol y stafell
sy’n sgrech yn ei ben.
‘Nos da i chi, Lili. Diolch am hon.
Dyma chi.’
Mae’n gadael yr amlen ar erchwyn
y gwely. A gadael y golau ymlaen.
elwyn/annie/janet/jiws