Actio Drama neu Waith Dyfeisiedig
- Cam 1: Cofrestru i gystadlu
- Rhaid cofrestru i gystadlu ar-lein erbyn 1 Ebrill drwy wefan yr Eisteddfod
- Uwchlwytho copi o’r sgript fel y bwriedir ei pherfformio neu fraslun manwl o’r cyflwyniad os yn waith dyfeisiedig
- Cam 2: Beirniaid i ddewis 3 chwmni i gystadlu yn yr Eisteddfod
- Rhaid cynnal y rownd gynderfynol erbyn diwedd Mehefin, un ai drwy:
- Berfformiad byw o'r Ddrama neu Gwaith Dyfeisiedig o flaen y beirniaid mewn canolfan(nau) sy'n ganolog i'r cwmnïau
- NEU, gellir cyflwyno recordiad o'r Ddrama neu Gwaith Dyfeisiedig os nad yw'n bosib i'r beirniaid ymweld â'r cwmni cyn diwedd Mehefin (cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru am ganllawiau a chyfarwyddiadau pellach).
- Cam 3: Perfformio yn yr Eisteddfod
- Cynhelir rownd derfynol mewn canolfan bwrpasol ar ddiwrnod penodol yn ystod wythnos yr Eisteddfod
- Rhaid i unrhyw gwmni sydd wedi’i ddewis ar gyfer y prawf terfynol, ond sy’n tynnu’n ôl heb reswm digonol ym marn y Pwyllgor Theatr lleol, hysbysu swyddfa'r Eisteddfod o leiaf fis cyn diwrnod y gystadleuaeth
- Traddodir beirniadaeth ar ddiwedd y prawf terfynol.
- Rheolau ac amodau
- Os yn perfformio drama, rhaid i’r ddrama fod naill ai’n ddrama un act gyflawn neu’n ddetholiad o ddrama hir neu’n waith dyfeisiedig.
- Ni chaniateir unrhyw ragarweiniad i’r detholiad, drwy araith na chrynodeb wedi’i argraffu.
- Ni ddylai’r perfformiad fod yn llai nag 20 munud o hyd nac yn hwy na 50 munud. Mae ‘amser perfformio’ yn cynnwys unrhyw amser sydd ei angen i newid golygfa yn ystod perfformiad.
- Caniateir 10 munud i osod y llwyfan a 5 munud i glirio’r llwyfan.
- Rhaid i’r cwmnïau sicrhau’r hawl i berfformio, a rhaid uwchlwytho copi o’r drwydded gyda’r ffurflen gais.
- Cyfrennir yn ariannol hyd at £250 tuag at gostau cynhyrchu a theithio’r cwmnïau a wahoddir yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Bydd angen gwneud cais gydag anfoneb o’r costau i sylw cystadlu@eisteddfod.cymru erbyn 1 Medi yn dilyn yr Ŵyl.
Cystadlaethau llwyfan
- Rhaid dechrau a diweddu’r perfformiad gyda llwyfan gwag. Amserir y perfformiad o’r funud y dechreuir gosod y llwyfan hyd at y llwyfan gwag ar ôl y cyflwyniad.
- Caniateir propiau a dodrefn syml, gwisg a cherddoriaeth. Y cystadleuwyr eu hunain a ddylai osod a chlirio’r llwyfan oni bai am achosion eithriadol a fyddai’n caniatáu i’r rheolwyr llwyfan swyddogol wneud hyn.
- Tynnir sylw’r cystadleuwyr at Reol Iaith yr Eisteddfod. Rhaid bod cyfiawnhad artistig pendant dros ddefnyddio iaith ar wahân i’r Gymraeg mewn detholiadau a chystadlaethau hunanddewisiad ac ni ddylai fod yn ormodol.
- Ni chaniateir cynnwys unrhyw ddeunydd enllibus nac unrhyw ddefnydd o iaith anweddus, a allai beri tramgwydd i eraill, mewn unrhyw ddetholiadau neu gystadlaethau hunanddewisiad neu gyflwyniad byrfyfyr.
DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.