1. Lle bo’r darn prawf wedi ei ysgrifennu mewn tafodiaith gref, caniateir rhai mân newidiadau i ynganiad y geiriau sy’n naturiol i dafodiaith y cystadleuydd. Dylid, fodd bynnag, sicrhau bod yr addasiad yn gynnil ac angenrheidiol. Ni ddylai unrhyw addasiadau, er mwyn bod yn driw i waith y llenor/bardd, effeithio ar fydr ac odl cerdd na newid ystyr y darn prawf mewn unrhyw fodd. Lle bo’r darn mewn cynghanedd, ni chaniateir unrhyw newidiadau.
  2. Caniateir propiau a dodrefn syml. Y cystadleuwyr eu hunain a ddylai osod a chlirio’r llwyfan oni bai am achosion eithriadol a fyddai’n caniatáu i’r rheolwyr llwyfan swyddogol wneud hyn.

DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.