- Cyflwyniad
Rhaid canu’r caneuon yn ddigyfeiliant, ac eithrio cystadlaethau lle nodwyd y caniateir offerynnau. Gellir dewis unrhyw gyweirnod - Canu a chyflwyno
Ar gyfer cystadlaethau canu i unigolion, argymhellir cyflwyno’r gân:- yn naturiol
- gan osgoi creu arddangosfa ymwybodol o’r llais canu
- gan roi blaenoriaeth i’r geiriau, eu profiad a’u naws
- gan ddehongli trwy liwio neu bwyntio’n gynnil, heb or-ddramateiddio
- gan drin yr alaw yn llawforwyn i’r geiriau
- gan adael i’r geiriau reoli rhythmau’r gerddoriaeth
- gan ddehongli’r gân yng nghyswllt ei chefndir traddodiadol hyd y gwyddys am hynny
- Hawlfraint
Cyfrifoldeb corau, partïon, grwpiau neu unigolion yw sicrhau hawlfraint unrhyw ddarnau hunanddewisiad. Rhaid nodi hyn wrth gofrestru. Ceir canllawiau a chyfarwyddiadau pellach yn adran ‘Cystadlu’ ar wefan yr Eisteddfod. Rhaid uwchlwytho copi i’r wefan erbyn 15 Mehefin - Oedran
Rhaid i’r cystadleuydd fod o fewn cwmpas oedran y gystadleuaeth ar 31 Awst 2024 - Copïau
Mae hi’n anghyfreithlon gwneud copïau ychwanegol eich hun o gerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi’i gyhoeddi. - Parti neu gôr yn yr adran hon
yr alaw a’r geiriau yn cael blaenoriaeth yn y trefniant a’r dehongliad, a hynny mewn arddull werinol - Cystadlaethau cyn-derfynol a therfynol
Bydd disgwyl i gystadlaethau'r adran hon ymddangos mewn rownd gyn-derfynol, a dyfernir y tri gorau i gystadlu yn y rownd derfynol oni nodir yn wahanol.
DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.