1. Llwyfan
    • Ni chaniateir i unrhyw un ddawnsio mewn mwy nag un parti yn yr un gystadleuaeth.
    • Mae’r cystadlaethau’n agored i unrhyw un a anwyd yng Nghymru, y ganwyd un o'u rhieni yng Nghymru, neu unrhyw un sydd wedi byw yng Nghymru neu unrhyw berson sydd yn gallu siarad neu ysgrifennu Cymraeg am o leiaf flwyddyn yn union cyn yr Ŵyl.
    • Disgwylir i’r cystadleuwyr ddod â’u cyfeilydd/cyfeiliant eu hunain.
    • Gofynnir i bob parti uwchlwytho cynllun llwyfan gyda lleoliad ac unrhyw anghenion sain eu cerddorion erbyn 15 Mehefin.
  2. Maint y llwyfan
    Am gynllun llwyfan cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru
  3. Hawlfraint
    Cyfrifoldeb partïon, grwpiau neu unigolion yw sicrhau hawlfraint unrhyw ddarnau hunanddewisiad. Rhaid nodi hyn wrth gofrestru. Ceir canllawiau a chyfarwyddiadau pellach yn adran ‘Cystadlu’ ar wefan yr Eisteddfod. Dylid uwchlwytho copi o unrhyw ddarnau erbyn 15 Mehefin.
  4. Cerddoriaeth
    Dylai unrhyw gerddoriaeth a ddefnyddir fod â geiriau Cymraeg neu heb eiriau o gwbl. Dylid uwchlwytho unrhyw recordiad o gerddoriaeth ar ffurf MP3 yn yr adran gofrestru ar wefan yr Eisteddfod erbyn 15 Mehefin.
  5. Cyfoes I Disgo I Hip Hop Stryd I Jazz, Cheer ayb:
    • Beirniedir y perfformiadau ar sail natur greadigol, elfennau cyfansoddi a choreograffeg a chelfyddyd dawnsio’r rhai sy’n cystadlu.
    • Gofynnir i gystadleuwyr uwchlwytho crynodeb o’r gwaith, ynghyd â theitl a chyfansoddwr y gerddoriaeth erbyn 15 Mehefin. Ni chaniateir goleuadau arbennig, setiau nac unrhyw offer cynhyrchu arall ar gyfer y cystadlaethau. Caniateir defnyddio mân gelfi, sy’n gludadwy gan yr unigolion fydd yn eu defnyddio.
    • Disgwylir i’r cystadleuwyr ddewis gwisg/gwisgoedd syml na fydd yn amharu ar eu symudiadau ar y llwyfan. Dylai’r wisg orchuddio’r torso.
    • Darperir lle i’r cystadleuwyr ymbaratoi a gofynnir iddynt fod yn barod o leiaf hanner awr cyn y gystadleuaeth

DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y rheolau ac amodau cyffredinol cyn cystadlu.