Cyflwyniad
Mae pob un o’n cystadlaethau’n dilyn y rheolau cyffredinol isod a’r amodau arbennig ar ddechrau pob adran yn y Rhestr Testunau. Yn achlysurol ceir amodau ychwanegol sy’n berthnasol i gystadlaethau unigol. Rydyn ni’n defnyddio’r geiriau canlynol yng nghyd-destun y rheolau.
- Yr Eisteddfod: Yr Eisteddfod Genedlaethol;
- Bwrdd Rheoli: Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod;
- Cyngor: Cyngor yr Eisteddfod;
- Llys: Llys yr Eisteddfod;
- Pwyllgor Diwylliannol: Is-bwyllgor o’r Bwrdd Rheoli sydd â throsolwg dros benderfyniadau’r Panelau Canolog;
- Panel Canolog: Is-bwyllgorau'r Pwyllgor Diwylliannol sydd â throsolwg dros benderfyniadau artistig a chystadlu'r Is-bwyllgorau testunau lleol;
- Yr Ŵyl: yr Eisteddfod y cynhelir y cystadlaethau ynddi.
- Os oes gwahaniaeth yn ystyr y geiriau Cymraeg a Saesneg yn y rheolau, y Gymraeg fydd yn cael ei dderbyn fel y geiriad swyddogol.
- Rydyn ni’n cymryd pob gofal rhesymol am y gwaith sy’n cael ei gyflwyno i gystadlaethau’r Eisteddfod.
- Nid yw’r Eisteddfod yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw oedi, colled, niwed nac anhwylustod i unrhyw gystadleuydd neu gystadleuwyr nac unrhyw ddifrod neu anffawd i offerynnau.
Rheolau Cyffredinol
- Iaith a Chynnwys
- Cymraeg yw iaith cystadlu ac arddangos yr Eisteddfod;
- Mae angen cyfiawnhad artistig pendant i ddefnyddio unrhyw iaith ond y Gymraeg mewn detholiadau neu gystadlaethau llwyfan a chyfansoddi, a dylid defnyddio cyn lleied â phosibl o unrhyw iaith arall;
- Dylai unrhyw gerddoriaeth a ddefnyddir fod â geiriau Cymraeg neu heb eiriau o gwbl;
- Dylech osgoi deunydd a chyfeiriadau enllibus, ynghyd â defnydd o iaith anweddus a allai beri tramgwydd i eraill;
- Rhybuddion Cynnwys: Os yw eich gwaith yn cynnwys thema(âu) a allai ysgogi ymateb emosiynol negyddol dylech gynnwys rhybudd wrth gyflwyno eich gwaith, boed hynny ar gyfer cystadleuaeth lwyfan neu gyfansoddi.
- Pwy sy’n cael cystadlu?
Mae ein cystadlaethau ar agor i unrhyw un:- sydd wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sydd ag un o’u rhieni wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sy’n siarad yr iaith neu ysgrifennu'n Gymraeg, neu
- sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am flwyddyn cyn 31 Awst flwyddyn yr Ŵyl gyfredol. Noder fod rhaid bod wedi byw neu weithio yng Nghymru am dair blynedd i gystadlu am ein hysgoloriaethau offerynnol, Ysgoloriaeth W Towyn Roberts, a gwobrau’r adran Gelfyddydau Gweledol.
- Bandiau Pres: gweler Amodau Arbennig yr adran honno.
- Cystadlaethau Llwyfan
Rydyn ni’n diffinio ein cystadlaethau llwyfan fel y rheini sydd â dyddiad cau ar 1 Mai;- Cofrestru i gystadlu:
- Rhaid cofrestru i gystadlu ar-lein drwy borth yr Eisteddfod www.eisteddfod.cymru;
- Bydd y porth cystadlu yn agor ddechrau'r flwyddyn ac yn cau am 12:00 ar 1 Mai. Ni fydd modd cofrestru ar ôl y dyddiad hwn.
- Os yn berthnasol, mae’n rhaid cadarnhau rhaglen a chyflwyno darnau hunan ddewisiad erbyn 15 Mehefin;
- Oedran: Mae’n rhaid i bob cystadleuydd fod o fewn cwmpas oedran y gystadleuaeth ar 31 Awst flwyddyn yr Ŵyl;
- Ni all unrhyw un gystadlu fwy nag unwaith yn yr un gystadleuaeth llwyfan;
- Trefn cystadlu: Cynhelir rhagbrofion ar gyfer ein cystadlaethau unigol, deuawd, triawd neu bedwarawd ac ensemble. Bydd yr holl gystadlaethau torfol yn cystadlu mewn rownd derfynol yn unig (ac eithrio Côr a Phartïon Cerdd Dant sydd â rhagwrandawiad);
- Rhaglen gystadlu: Pennir trefn cystadlu'r cystadlaethau torfol sy’n ymddangos ar lwyfan y Pafiliwn ar hap cyn cyhoeddi’r rhaglen. Rhaid i gystadleuwyr y cystadlaethau unigol, deuawd, triawd neu bedwarawd ac ensemble gofrestru gyda’r clerc ar ddechrau’r rhagbrawf;
- Dylid ystyried yn ofalus unrhyw ffyrdd y gallai’r gwaith beri tramgwydd a chynnal ymchwil berthnasol lle bo angen.
- Ni chaniateir i gystadleuwyr ddadlau na thrafod y gystadleuaeth gyda’r beirniaid, nac ychwaith ymyrryd â’r beirniaid neu gystadleuwyr eraill mewn unrhyw fodd.
- Cofrestru i gystadlu:
- Amseru
Amserir perfformiad hunan ddewisiad o'r nodyn cyntaf i'r olaf fesul darn (Cerddoriaeth) neu o'r symudiad cyntaf i'r olaf (Dawns | Llefaru | Theatr). Amseriad swyddogol yr Eisteddfod a ddefnyddir er mwyn penderfynu os yw cystadleuydd(wyr) wedi mynd dros yr amser a ganiateir. Hysbysir y beirniad os yw'r perfformiad yn para'n hwy nag amser penodedig y gystadleuaeth a chosbir y cystadleuydd(wyr) yn unol â'r raddfa ganlynol.
- hyd at 30 eiliad: dim cosb
- rhwng 30 eiliad a 1 munud: 1 marc
- rhwng 1 munud a 2 funud: 2 farc
- rhwng 2 funud a 3 munud: 4 marc
- dros 3 munud: 8 marc
- Cystadlaethau Cyfansoddi
Diffinnir cystadlaethau Cyfansoddi fel y cystadlaethau hynny lle disgwylir i’r cystadleuydd gyflwyno gwaith i’w feirniadu o flaen llaw gyda dyddiad cau 1 Ebrill (oni bai nodir yn wahanol);- Cofrestru i gystadlu:
- Rhaid cofrestru i gystadlu ar-lein drwy borth yr Eisteddfod www.eisteddfod.cymru;
- Bydd ein porth cystadlu’n cau am 12:00 ar y dyddiad cau penodedig a nodir yn y Rhestr Testunau;
- Ni fydd modd cofrestru ar ôl y dyddiad hwn;
- Cyflwyno Cyfansoddiadau: Rhaid uwch lwytho pob cyfansoddiad i’r porth gan ddilyn y cyfarwyddiadau a thalu’r taliad cywir wrth gofrestru i gystadlu;
- Cyfrinachedd: Rhaid i bob cyfansoddiad nodi rhif a theitl y gystadleuaeth a ffugenw’r cystadleuydd yn unig gan ymdrechu i ddileu neu guddio unrhyw fanylion fyddai’n datgelu manylion y cystadleuydd;
- Gwaith Gwreiddiol: Rhaid i’r holl gyfansoddiadau a chynhyrchion a anfonir at yr Eisteddfod fod yn waith gwreiddiol a dilys y cystadleuydd (neu gystadleuwyr pan ganiateir cywaith). Ni chaniateir anfon gwaith sydd wedi’i wobrwyo o’r blaen yn yr Eisteddfod Genedlaethol na gwaith sydd wedi’i gyhoeddi yn rhannol nac yn gyfan mewn unrhyw gyfrwng;
- Deallusrwydd Artiffisial (D.A): Oni nodir yn wahanol, ni chaniateir defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu cyfansoddiadau;
- Dylid ystyried yn ofalus unrhyw ffyrdd y gallai’r gwaith beri tramgwydd a chynnal ymchwil berthnasol lle bo angen.
- Ni chaniateir anfon yr un gwaith yn ei hanfod i fwy nag un gystadleuaeth.
- Cofrestru i gystadlu:
- Hawlfraint Perfformio
Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw sicrhau caniatâd a hawlfraint unrhyw ddarn(au) hunan ddewisiad i’w b/perfformio yn yr Eisteddfod.- Nid oes angen caniatâd i ddefnyddio’r darnau sy’n ymddangos yn y Rhestr Testunau;
- Wrth ddewis darn ‘hunan ddewisiad’, y cystadleuydd sy’n gyfrifol am sicrhau’r hawl y cyhoeddwr / awdur i berfformio darn o waith yn gyhoeddus. Rhaid sicrhau bod unrhyw gyfieithiad yn gyfieithiad sydd wedi’i gymeradwyo gan y cyhoeddwr / awdur gwreiddiol. Gofynnir am brawf bod yr hawliau hyn wedi eu rhoi;
- Cyfrifoldeb y darlledwr yw sicrhau’r hawl i ddarlledu darn o waith;
- Am gyngor pellach, cysylltwch ag Adran Gymraeg PRS ar 020 3741 4033 neu e-bostio: welshtvprogrammes@prsformusic.com;
- Anogir pawb i ddewis caneuon na fyddant yn creu trafferthion wrth eu darlledu. Dylid osgoi ambell gyfansoddwr/ grŵp gan nad oes modd sicrhau hawlfraint. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru am gyngor.
- Hawlfraint Cyfansoddiadau
- i gyhoeddi unrhyw gyfansoddiad am y tro cyntaf yn ystod wythnos yr Ŵyl neu o fewn tri mis i ddiwrnod olaf yr Ŵyl heb ymgynghori â’r awdur;
- i ganiatáu i’r Eisteddfod ddefnyddio’r gwaith buddugol yn y dyfodol at ddibenion yr Eisteddfod, er enghraifft fel darnau prawf neu er mwyn hyrwyddo’r Eisteddfod, heb ymgynghori â’r awdur.
- Bydd yr awdur yn cadw yn eiddo iddynt eu hunain berchnogaeth yr hawlfraint ym mhob cyfansoddiad, ac unrhyw freindal perthnasol.
- Yn unol â’r amod, bydd awdur y gwaith, yn gyfnewid am y gwasanaeth y bydd yr Eisteddfod yn ei roi drwy ei feirniadu, yn rhoi’r hawliau canlynol i’r Eisteddfod heb i’r Eisteddfod dalu unrhyw freindal neu daliad arall
- Ymhellach bydd yn rhaid i awdur unrhyw waith a gyhoeddir gan yr Eisteddfod gydnabod cysylltiad y gwaith â’r Eisteddfod Genedlaethol bob tro y’i defnyddir ganddynt fel perchennog yr hawlfraint ynddo;
- Bydd yr awdur yn rhoi’r hawl i Brif Weithredwr a/neu Gyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod agor yr amlen dan sêl os yw beirniad/ beirniaid y gystadleuaeth neu olygydd cyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yn argymell cyhoeddi’r gwaith;
- O dan amgylchiadau arbennig, caniateir agor yr amlen dan sêl ar ôl cyfnod o hanner can mlynedd wedi’r Eisteddfod mewn ymgynghoriad â’r Llyfrgell Genedlaethol.
Amodau Beirniadu
Rhaid cytuno i’r amodau canlynol cyn derbyn y gwahoddiad i feirniadu neu gyfeilio yn yr Eisteddfod. Darperir cytundeb gwaith a chanllawiau beirniadu perthnasol yn llawn i sylw beirniaid yr Eisteddfod ar ôl derbyn y gwahoddiad.
- Llwyfan a Chyfeilyddion
- Ni chaniateir i aelod o’r Pwyllgor Testun Lleol feirniadu yn yr Ŵyl gyfredol;
- Ni chaiff beirniaid ar gystadlaethau llwyfan gystadlu ar unrhyw gystadleuaeth llwyfan arall ac eithrio y caniateir iddynt fod yn aelodau o gôr neu barti mewn adran nad ydynt yn beirniadu ynddi. Caniateir iddynt hefyd gystadlu mewn cystadlaethau cyfansoddi ym mhob adran;
- Ni chaiff beirniad yn yr Ŵyl weithredu fel cynhyrchydd, arweinydd, hyfforddwr na gosodwr yn yr adran maent yn ei feirniadu;
- Ni chaiff unrhyw un sydd yn ddisgybl preifat i’r beirniad neu’n berthynas agos iddynt gystadlu mewn unrhyw gystadleuaeth yn yr adran y bo’r beirniad hwnnw’n beirniadu ynddi.
- Yn ystod wythnos yr Eisteddfod gofynnir am feirniadaeth ysgrifenedig gogyfer pob un o’r cystadleuwyr sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth. Gellir trefnu i gyfieithu beirniadaethau os nad yw’r beirniaid yn hyderus i ysgrifennu’n y Gymraeg;
- Ni chaniateir rhannu gwobr mewn unrhyw achos;
- Gwobrwyir enillydd ar sail barn mwyafrif y beirniaid. Mewn achosion arbennig bydd gan y Cyfarwyddwr Artistig a’r Pwyllgor Apeliadau yr hawl i benodi canolwr;
- Os nad oes teilyngdod, bydd gan y beirniaid yr hawl i atal y wobr.
- Cyfansoddi
- Gall beirniaid cystadlaethau cyfansoddi gystadlu ym mhob cystadleuaeth gyfansoddi a llwyfan ac eithrio'r gystadleuaeth gyfansoddi y maent yn eu beirniadu;
- Ni chaiff unrhyw un sydd yn ddisgybl i’r beirniad neu’n berthynas agos iddynt gystadlu mewn unrhyw gystadleuaeth y bo’r beirniad hwnnw’n ei beirniadu;
- Derbyn cyfansoddiadau: Rhennir holl gyfansoddiadau a gyflwynir yn ddigidol yn ddienw unol â pholisi amgylcheddol yr Eisteddfod;
- Yn fuan wedi dyddiad cau swyddogol y gystadleuaeth fe fyddwch yn derbyn dolen i fewngofnodi er mwyn cael mynediad i’r cyfansoddiadau;
- Y broses feirniadu: Pori drwy’r holl gyfansoddiadau a ddaeth i law;
- Yn achos y cystadlaethau hynny lle mae mwy nag un beirniad, penodir prif feirniad a disgwylir i’r panel drafod ar hyd y daith a chytuno ar ganlyniad;
- Ni chaniateir rhannu gwobrau o gwbl;
- Paratoi beirniadaeth: Mae’n rhaid cyflwyno pob beirniadaeth yn yr iaith Gymraeg. Mae’n rhaid paratoi sylwadau ar gyfer pob ymgeisydd yn y gystadleuaeth a dylai cyfeirio at ffugenw pob ymgeisydd yn y feirniadaeth.
Gweithdrefnau'r Eisteddfod
- Pwyllgor Apeliadau
Bydd y Pwyllgor Apeliadau yn dyfarnu mewn unrhyw ddadl neu wahaniaeth barn ar unrhyw fater yn codi o’r Rheolau ac Amodau Cyffredinol neu mewn unrhyw fater ynglŷn ag unrhyw gystadleuaeth.- Sail unrhyw apêl yw cyhuddiad bod amod cystadleuaeth unigol, amod gyffredinol, neu amod arbennig wedi’i thorri. Ni ellir apelio ar sail chwaeth neu ddehongliad beirniaid. Bydd penderfyniad y Pwyllgor Apeliadau yn derfynol;
- Bydd y Pwyllgor Apeliadau yn cynnwys Llywydd y Llys a/neu Gadeirydd y Cyngor, aelod o'r Pwyllgor Diwylliannol a hyd at ddau aelod o’r Bwrdd Rheoli.
- Cwyno a Gwrthwynebu
Os bydd gan gystadleuydd gŵyn, rhaid dilyn y drefn ganlynol:- Rhaid cyflwyno cwyn ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr Artistig o fewn awr i ddyfarniad terfynol a hanner awr i ddyfarniad rhagbrawf gydag enw a gwybodaeth gyswllt y sawl sy’n cwyno.
- Bydd y wobr yn cael ei hatal hyd nes bydd y mater wedi’i ddatrys.
- Newid beirniaid
Mewn ymgynghoriad gyda swyddogion y Pwyllgor Testun Lleol a Chadeirydd y Panel Canolog perthnasol, bydd gan y Cyfarwyddwr Artistig yr hawl i ddewis beirniad yn lle unrhyw un na all weithredu oherwydd salwch neu achos annisgwyl; - Gwobrau, Tlysau, Ysgoloriaethau a Grantiau Teithio
- Gwobrau: Telir y gwobrau ariannol drwy drosglwyddiad BACS i gyfrif y cystadleuydd(wyr) yn dilyn canlyniad pob cystadleuaeth, cyn belled â bod manylion cywir y cystadleuydd(wyr) wedi'i/u g(c)yflwyno.
- Tlysau: Bydd y mwyafrif o’r tlysau, cwpanau a thariannau’n cael eu dal am flwyddyn yn unig, a dylid cysylltu gyda cystadlu@eisteddfod.cymru i drefnu lleoliad ac amser i ddychwelyd y tlws cyn yr Eisteddfod nesaf;
- Ysgoloriaethau: Dim ond unwaith yn unig y gellir ennill yr un ysgoloriaeth, ond gellir cystadlu eto i ennill y gwobrau. Mae’r arian a gynigir ym mhob ysgoloriaeth i’w ddefnyddio i hyrwyddo gyrfa a disgwylir i enillwyr brofi bod yr arian yn cael ei wario i'r perwyl hwn. Dylid cysylltu â cystadlu@eisteddfod.cymru am ragor o wybodaeth.
- Grantiau Teithio: Hanfod y grant teithio yw cynorthwyo grwpiau torfol i gystadlu yn yr Eisteddfod. Cyflwynir y cais ar sail y pellter rhwng y ganolfan ymarfer arferol a lleoliad maes yr Eisteddfod gyfredol. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru am fanylion. Rhaid cyflwyno’r ffurflen wedi’i chwblhau cyn 31 Awst blwyddyn yr Ŵyl gyfredol. Gellir gwneud cais ar ran parti, grŵp, côr sydd yn cydymffurfio â'r graddfeydd pellter canlynol:
- Graddfa A: Cystadleuwyr sydd a'u canolfan ymarfer rhwng 40 a 90 milltir o’r maes;
- Graddfa B: Cystadleuwyr sydd a'u canolfan ymarfer rhwng 91 a 140 milltir o’r maes;
- Graddfa C: Cystadleuwyr sydd a'u canolfan ymarfer dros 141 milltir o’r maes.
- Recordio, ffilmio a darlledu
Llys yr Eisteddfod yn unig sydd â’r hawl:- I wneud recordiadau o holl weithgareddau’r Eisteddfod neu unrhyw ran ohonynt, gan gynnwys gweithgareddau’r Orsedd (‘y Gweithgareddau’) ac unrhyw ddetholiad o unrhyw eitem lenyddol, gerddorol neu ddramatig a gyflwynir (‘y Detholion’);
- I ddarlledu’r Gweithgareddau a/neu’r Detholion, trwy gyfrwng sain, teledu, y rhyngrwyd, neu unrhyw gyfrwng arall boed yn hysbys ar hyn o bryd neu a ddyfeisir yn y dyfodol;
- Wrth gofrestru mae’r person â gofal yn cydnabod fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad cyhoeddus a bydd aelodau yn ymddangos ar lwyfan o flaen y cyhoedd sydd yn mynychu’r digwyddiad;
- Yn arwain at, ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, rhennir enwau’r cystadleuwyr gyda’r wasg gan gynnwys cwmnïau teledu a radio ac ar blatfformau digidol. Mae posibilrwydd y bydd enwau a lluniau cystadleuwyr Eisteddfodau yn ymddangos yn gyhoeddus ar wefan ac ar ap yr Eisteddfod (e.e. canlyniadau’r Eisteddfodau) ac ar blatfformau cyhoeddus eraill gan gynnwys ond heb gyfyngiad, papurau newydd, papurau bro, gwefannau ac ar gyfryngau cymdeithasol.
- Cyfrifoldeb y person â gofal yw hysbysu’r Eisteddfod o unrhyw achos dros beidio â datgelu gwybodaeth unrhyw aelod ar y teledu, y radio a'r we. Mae’r Eisteddfod yn barod i gydymffurfio, cydweithio a hwyluso’r broses er mwyn sicrhau fod pob cystadleuydd yn medru cystadlu yn yr Eisteddfodau yn unol â’u dymuniad;
- I’r perwyl hynny mae cystadleuwyr yn ildio unrhyw hawliau moesol sydd ganddynt o dan Bennod IV Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 ac o dan unrhyw ddeddfau eraill sydd mewn grym yn y presennol neu yn y dyfodol yn unrhyw le yn y byd ac yn rhoi i’r Eisteddfod unrhyw ganiatâd angenrheidiol i ddefnyddio’u cyfraniadau at weithgareddau’r Eisteddfod. Heb ganiatâd, ni all yr Eisteddfod dderbyn ceisiadau i gystadlu.
- Polisiau'r Eisteddfod:
Cyhoeddir holl bolisiau'r Eisteddfod ar y wefan:
www.eisteddfod.cymru/amdanom-ni/llywodraethiant-pholisiau- Cyflwynir y Rhestr Testunau yn unol â Chyfansoddiad a Rheolau Sefydlog y corff. Cyfrifoldeb y Bwrdd Rheoli/Ymddiriedolwyr yw sicrhau fod holl weithredoedd a gweithdrefnau’r corff yn cael eu gwireddu mewn modd cyfrifol a chyfreithlon gan ddiogelu enw da'r sefydliad.
- Drwy gofrestru i gystadlu, mae rhieni | gwarchodwyr | gofalwyr ac athrawon ymgeiswyr o dan 18 oed (neu oedolion bregus o unrhyw oed) yn cadarnhau eu bod yn rhoi (neu wedi derbyn) y caniatâd angenrheidiol ar gyfer y cystadleuwyr i gymryd rhan yn yr Eisteddfod yn unol â pholisi Diogelu Plant;