1. Cadenza: Mae rhyddid i gystadleuwyr amrywio cadenza neu osod i mewn cadenza neu nodau uchel dewisol lle bo’n arferol, ond rhaid hysbysu’r beirniaid o’r newidiadau.
  2. Corau
    • Aelodaeth: Ni chaiff unrhyw un ganu mewn côr heb fod yn aelod cyflawn o’r côr hwnnw am ddeufis yn union cyn yr Eisteddfod, ac ni all unrhyw un ganu mewn mwy nag un côr yn yr un categori corawl.
    • Rhannau Unigol: Ni chaniateir i unrhyw gôr ddewis darnau lle rhoddir lle blaenllaw i unawdwyr. Ni ddylid dewis caneuon o arddull sy’n defnyddio côr fel ‘cantorion cefndir’ am gyfnod sylweddol.
    • Amseru: Amserir y perfformiad o’r nodyn cyntaf i’r nodyn olaf o bob cân yn unol â gofynion y gystadleuaeth i gynnwys nifer amhenodol o ganeuon gyda neu heb gyfeiliant. Bydd corau’n cael eu cosbi am fynd dros yr amser. Ceir rhestr o’r cosbau hyn yn y Rheolau ac Amodau Cyffredinol yng nghefn y Rhestr Testunau.
    • Rostra: Darperir rostra gan yr Eisteddfod.
  3. Cyweirnod: Yr argraffiad a’r cyweirnod a nodir yn unig a ganiateir ym mhob cystadleuaeth.
  4. Cyfeilyddion: Rhaid i gystadleuwyr dderbyn gwasanaeth cyfeilydd swyddogol yr Eisteddfod ym mhob cystadleuaeth ac eithrio corau, cystadlaethau o sioeau cerdd a chystadlaethau offerynnol. Bydd yr Eisteddfod yn ceisio sicrhau gwasanaeth yr un cyfeilydd yn y rhagbrawf a’r prawf terfynol.
  5. Dehongliad Cyfansoddwr o Gymro: Person sydd wedi’i eni yng Nghymru, sydd o dras Gymreig neu sydd wedi gweithio yng Nghymru.
  6. Gwobr Goffa David Ellis: Bydd y beirniaid yn dewis hyd at dri chystadleuydd o’r categori lleisiol dros 25 oed i gystadlu yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa David Ellis. Ni chaiff unrhyw un gynnig ar fwy nag un o’r cystadlaethau yn y categori hwn.
  7. Gwobr Goffa Osborne Roberts: Bydd y beirniaid yn dewis hyd at dri chystadleuydd o’r categori lleisiol o dan 25 oed i gystadlu yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Osborne Roberts. Ni chaiff unrhyw un gynnig ar fwy nag un o’r cystadlaethau yn y categori hwn..
  8. Hunanddewisiad
    • Gall cystadleuydd ddewis cyweirnod mewn cystadlaethau sydd â hunanddewisiad, ond rhaid i’r cyweirnod hwnnw ymddangos mewn copi sydd wedi’i gyhoeddi gan gwmni cydnabyddedig.
    • Caniateir canu mewn unrhyw gyweirnod yng nghystadlaethau Canu Emyn | Cân o Fawl Agored, Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd ac Unawd o Sioe Gerdd o dan 19 oed.
    • Rhaid uwchlwytho copi o bob darn yn y cywair a ddewiswyd erbyn 15 Mehefin, gyda’r geiriau Cymraeg wedi’u gosod ar y gerddoriaeth.
    • Rhaid canu’r darnau lleisiol yn y Gymraeg. Fodd bynnag, caniateir i gorau gynnwys un gân heb eiriau yn eu rhaglen os dymunant. Bydd y geiriau Cymraeg ar gyfer y darnau gosod yn cael eu gosod ar dudalennau cofrestru’r cystadlaethau perthnasol ar wefan yr Eisteddfod a dylid e-bostio cystadlu@eisteddfod.cymru gydag unrhyw ymholiadau.
    • Ni chaniateir newid y darn hunanddewisiad gwreiddiol ar ôl 15 Mehefin.
  9. Ysgoloriaethau: Ni ellir ennill yr un ysgoloriaeth fwy nag unwaith. Mae’r arian a gynigir ym mhob ysgoloriaeth i’w ddefnyddio i hyrwyddo gyrfa’r unigolyn, a disgwylir i enillwyr brofi i’r Eisteddfod bod yr arian wedi’i wario ar hyn. I hawlio’r ysgoloriaeth mae’n rhaid cysylltu â Swyddfa’r Eisteddfod cyn diwedd mis Medi blwyddyn yr Eisteddfod gyfredol.
  10. Traw: Defnyddir y Traw Cyngerdd Safonol Rhyngwladol (A-440 Hz) ym mhob cystadleuaeth leisiol ac offerynnol sy’n gofyn am biano.

DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.