Dyddiad cau cofrestru adran Celfyddydau Gweledol: 3 Mawrth 2025
Ffi cystadlu adran Celfyddydau Gweledol: £10 y cofrestriad
Cysylltwch â yllecelf@eisteddfod.cymru am gymorth pellach
Amodau arbennig Celfyddyd Gain | Celf a Dylunio
- Mae’r arddangosfa’n agored i geisiadau gan artistiaid
- sydd wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sydd ag un o’u rhieni wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sy’n siarad yr iaith neu ysgrifennu'n Gymraeg, neu
- sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru ers tair blynedd cyn 31 Awst flwyddyn yr ŵyl.
- Sut i ymgeisio: Rhaid cyflwyno'r wybodaeth ganlynol er mwyn cwblhau eich cais yn llwyddiannus drwy system gofrestru yr Eisteddfod cyn y dyddiad cau i gynnwys:
- Delweddau o'r gwaith: Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno hyd at chwe delwedd JPEG/PNG 300dpi, neu waith fideo / perfformio. Mae hi'n bwysig eich bod yn cyflwyno delweddau clir o'ch gwaith, gan sicrhau fod y gwaith ar gael rhwng 1 Ebrill i’r 16 Awst 2025. Er mwyn cystadlu, rhaid i'r gwaith fod yn waith a gwblhawyd ers 31 Awst 2023, neu yn waith newydd wedi'i ddylunio'n arbennig ar gyfer yr Eisteddfod.
- Gwybodaeth am bob darn o waith a gyflwynwyd: teitl, cyfrwng, maint (neu hyd amser), dyddiad, a phris (os ar werth).
- Datganiad Artist: Rhaid cynnwys datganiad artist hyd at 300 gair ynglŷn â'r gwaith a gyflwynir, h.y. nid bywgraffiad artist ond datganiad am y gwaith.
- Gwerthiant: Codir comisiwn o 40% (gan gynnwys TAW) ar unrhyw waith a werthir yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Felly os nodir pris gwaith yn £1000 bydd yr artist yn derbyn £600 os werthir y gwaith.
- Rheol Iaith: Rhaid i unrhyw eiriau gwreiddiol yn y gwaith celf (yn cynnwys sain a fideo) fod yn Gymraeg. Ond gellir cynnwys geiriau mewn ieithoedd eraill os ydynt yn rhan o wrthrych a ddarlunnir neu a ymgorfforir, neu yn ddyfyniadau, cyn belled nad ydynt yn rhan sylweddol o’r cyfanwaith.
- Hawlfraint: Bydd hawlfraint y gweithiau yn eiddo i’r ymgeisydd ond bydd gan yr Eisteddfod yr hawl i atgynhyrchu unrhyw waith mewn print neu ar-lein er mwyn cyhoeddi lluniau o’r arddangosfa ac at bwrpas cyhoeddusrwydd yr Eisteddfod.
- Dilysrwydd: Rhaid i’r gwaith a gyflwynir fod yn waith dilys yr ymgeisydd, ac ni ddylai fod wedi’i arddangos mewn unrhyw Eisteddfod Genedlaethol flaenorol.
Amodau arbennig Ysgoloriaeth Artist Newydd Dewi Bowen
Dyfernir Ysgoloriaeth Artist Newydd Dewi Bowen gwerth £1500 i’r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei (g)alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf gydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr i ddatblygu gyrfa. Croesawir ceisiadau o bob cyfrwng, boed yn gelfyddyd gain neu'n gelf gymhwysol (gan gynnwys y ddelwedd symudol a'r gelfyddyd berfformio). Ystyrir dangos y gwaith a gyflwynwyd yn Y Lle Celf. Yn ogystal, ystyrir cynnig gofod i enillydd yr ysgoloriaeth i arddangos yn Y Lle Celf, Eisteddfod 2026.
- Bydd yr ysgoloriaeth yn agored geisiadau gan unigolyn sydd wedi bod yn astudio neu weithio fel artist ers llai na 5 mlynedd. Bydd angen i’r artist fod
- wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sydd ag un o’u rhieni wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sy’n siarad yr iaith neu ysgrifennu'n Gymraeg, neu
- sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru ers tair blynedd cyn 31 Awst flwyddyn yr ŵyl.
- Sut i ymgeisio: Rhaid cyflwyno'r wybodaeth ganlynol er mwyn cwblhau eich cais yn llwyddiannus drwy system gofrestru'r Eisteddfod cyn y dyddiad cau i gynnwys:
- Delweddau o'r gwaith: Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno hyd at 8 delwedd JPEG/PNG 300 dpi, neu ddolen i waith fideo/ berfformio. Mae hi’n bwysig eich bod yn cyflwyno delweddau clir o’ch gwaith, gan sicrhau fod y gwaith ar gael o 1 Mawrth hyd 14 Awst 2025. I gystadlu, rhaid i’r gwaith fod yn waith a gwblhawyd ers 31 Awst 2023
- Gwybodaeth am bob darn o waith a gyflwynwyd: teitl, cyfrwng, maint (neu hyd amser), dyddiad, a phris (os ar werth)
- Datganiad Artist: Rhaid cynnwys datganiad artist hyd at 300 gair ynglŷn â’r gwaith a gyflwynir, h.y. nid bywgraffiad artist, ond datganiad am y gwaith.
- Datganiad yn esbonio sut y bwriedir defnyddio’r ysgoloriaeth
- Gwerthiant: Codir comisiwn o 40% (gan gynnwys TAW) ar unrhyw waith a werthir yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Felly os nodir pris gwaith yn £1000 bydd yr artist yn derbyn £600 os werthir y gwaith.
- Rheol Iaith: Rhaid i unrhyw eiriau gwreiddiol yn y gwaith celf (yn cynnwys sain a fideo) fod yn Gymraeg. Ond gellir cynnwys geiriau mewn ieithoedd eraill os ydynt yn rhan o wrthrych a ddarlunnir neu a ymgorfforir, neu yn ddyfyniadau, cyn belled nad ydynt yn rhan sylweddol o’r cyfanwaith.
- Hawlfraint: Bydd hawlfraint y gweithiau yn eiddo i’r ymgeisydd ond bydd gan yr Eisteddfod yr hawl i atgynhyrchu unrhyw waith mewn print neu ar-lein er mwyn cyhoeddi lluniau o’r arddangosfa ac at bwrpas cyhoeddusrwydd yr Eisteddfod.
- Dilysrwydd: Rhaid i’r gwaith a gyflwynir fod yn waith dilys yr ymgeisydd, ac ni ddylai fod wedi’i arddangos mewn unrhyw Eisteddfod Genedlaethol flaenorol.
Amodau arbennig Medal Aur Norah Dunphy am Bensaernïaeth | Plac Teilyngdod
Medal Aur Norah Dunphy: Cyflwynir er anrhydedd i Norah Dunphy, y ferch gyntaf ym Mhrydain i ennill gradd bagloriaeth mewn Pensaernïaeth. Mae'r fedal yn coffáu Thomas Alwyn Lloyd, pensaer ac un o sylfaenwyr y Sefydliad Cynllunio Trefol. Dyfernir y wobr i’r prosiect pensaernïol sydd o ansawdd a safon dylunio uchel yn cyfleu rhagoriaeth o ran dylunio a safon bensaernïol yn arddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol wrth ystyried deunyddiau, perfformiad adeiladu, datgarboneiddio, ac ailgylchu diwedd oes
Plac Teilyngdod: Cyflwynir plac teilyngdod i brosiect adnewyddu, neu newydd, yng Nghymru sy’n cyfleu rhagoriaeth o ran dilyn egwyddorion creu lleoedd (placemaking) fel y cydnabyddir gan y Siarter a Chanllawiau Creu Lleoedd Cymru: (1) Pobl a chymuned, (2) Lleoliad, (3) Symudiad, (4) Cymysgedd o ddefnyddiau, (5) Strydoedd a gofodau cyhoeddus, (6) Hunaniaeth. Rhaid i brosiectau gyflwyno agwedd lwyddiannus at gynaliadwyedd amgylcheddol yn y dulliau dylunio wrth ystyried lleoliad, perfformiad adeiladu, datgarboneiddio, cynhaliaeth ac ailgylchu diwedd oes. Rhaid cyfeirio at y dulliau dylunio sy’n cyfrannu at ymgyrch i gyflwyno Cymru fel lle arloesol, sy’n cefnogi cymunedau cydlynol, cyfoeth diwylliannol a threftadaeth
- Er mwyn ymgeisio, rhaid i'r prosiect fod:
- wedi’i adeiladu yng ac Nghymru wedi’i gwblhau (neu bron â'i gwblhau) rhwng 1 Ionawr 2023 a 1 Mawrth 2025
- wedi cael ei arwain gan bensaer (Medal Aur Norah Dunphy) neu bensaer/pensaer tirwedd/dylunydd trefol (Plac Teilyngdod)
- wedi derbyn caniatâd y cleient er mwyn cyflwyno'r prosiect
- Sut i ymgeisio: Rhaid cyflwyno'r wybodaeth ganlynol er mwyn cwblhau eich cais yn llwyddiannus drwy system gofrestru'r Eisteddfod cyn y dyddiad cau i gynnwys:
- Gwybodaeth am y prosiect
- Enw'r prosiect
- Enw pensaer y prosiect (neu bensaer tirwedd/dylunydd tref ar gyfer Plac Teilyngdod)
- Arwynebedd mewnol 'gross' mewn metrau sgwâr, ac yn achos prosiectau dylunio tirwedd | trefol yn bennaf, arwynebedd allanol 'gross' mewn metrau sgwâr.
- Gwerth y contract | cost adeiladu’r prosiect gan gynnwys adeiladu a dodrefnu os caiff ei wneud | goruchwylio gan y pensaer (ac eithrio costau tir a ffioedd)
- Math o gytundeb (ar gyfer prosiectau yn y DU), dyddiad cymeradwyo cynllunio a dyddiad meddiannu’r prosiect
- Enw a chyfeiriad practis pensaer | stiwdio
- Manylion cyswllt rheolwr prosiect | pensaer, cleient a chontractwr
- Manylion cyswllt ar gyfer ymweliadau gan y detholwyr
- Manylion cyswllt y wasg (dewisol)
- Manylion cyswllt ffotograffydd
- Os yn berthnasol, dylech sicrhau cytundeb rhwng yr holl randdeiliaid ar sut y dylid credydu'r prosiect os ydynt yn gweithio ar y cyd â chwmni neu bensaer arall
- Disgrifiad o'r prosiect: 500 gair yn disgrifio’r prosiect sy’n nodi:
- 'Brîff' gan y cleient/gwybodaeth tendr prosiect cyhoeddus
- Ymateb y pensaer/pensaer tirwedd/dylunydd trefol i'r brîff (ar gyfer Medal Aur Norah Dunphy bydd hyn yn ddatganiad dylunio; ar gyfer y Plac Teilyngdod dylai esbonio sut aethoch ati i ddilyn egwyddorion Creu Lleoedd)
- Lleoliad, safle neu gyfyngiadau perthnasol
- Crynodeb o'r amserlen
- Cyfyngiadau parthed y gyllideb a'r rhaglen adeiladu
- Datganiad cynaliadwyedd: 200 gair yn crynhoi'r holl ffyrdd y mae'r prosiect yn gynaliadwy
- Ymgynghorwyr allweddol: Cyfeiriwch at holl ymgynghorwyr allweddol y prosiect, e.e. Peiriannydd | Peirianwyr Strwythurol, Peiriannydd | Peirianwyr Gwasanaethau, Pensaer | Penseiri Tirwedd ac ati, gyda'u manylion cyswllt. Cydnabyddir yr ymgynghorwyr mewn datganiadau i'r wasg ac ar dystysgrifau gwobrau.
- Delweddau: Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno'r canlynol: (peidiwch â chynnwys logos cwmni na thestun ar unrhyw ddelweddau)
- 8 delwedd JPEG, gydag isafswm lled a | neu uchder o 1000px yn gymysgedd o luniau allanol a mewnol (ar gyfer Medal Aur Norah Dunphy) o'r prosiect. Dylai rhai o’r lluniau cyfleu’r ffordd y mae’r prosiect yn ymwneud â’i gyd-destun. Cymysgedd o luniau llydan a lluniau agos sy'n crynhoi elfennau o-ddydd-i-ddydd y prosiect. Rhaid cydnabod awdur pob ffotograff.
- Cynllun lleoliad (yn dangos y prosiect yn ei gyd-destun, e.e. 1:1250)
- Cynllun safle (ar gyfer Medal Aur Norah Dunphy ac yn opsiynol ar gyfer Plac Teilyngdod)
- Cynllun llawr gwaelod (yn dangos y brif fynedfa) a chynllun llawr nodweddiadol (ar gyfer Medal Aur Norah Dunphy yn unig)
- Gwybodaeth am y prosiect
Amodau arbennig Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth er mwyn hybu pensaernïaeth a dylunio yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaeth gwerth £1500 i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei (g)alluogi i ehangu ei (h)ymwybyddiaeth o bensaernïaeth greadigol ac ymdrechu am ragoriaeth ym maes dylunio ac i hyrwyddo gyrfa a datblygu'u (h)astudiaeth. Disgwylir i enillydd yr ysgoloriaeth gyflwyno traethawd gweledol i’w arddangos yn yr Eisteddfod ddilynol. Croesewir ceisiadau o feysydd pensaernïaeth, tirwedd neu ddylunio trefol. Dehonglir y gair pensaernïaeth yn yr ystyr ehangaf.
- Bydd yr ysgoloriaeth yn agored i unigolion mewn addysg, sy'n astudio Pensaernïaeth | Pensaernïaeth Tirwedd neu Ddylunio Trefol yn ystod a hyd at flwyddyn ar ôl cwblhau gradd MA | MSc. Bydd yr ymgeiswyr:
- wedi’u geni yng Nghymru, neu
- ag un o’u rhieni wedi’u geni yng Nghymru, neu
- yn siarad yr iaith neu ysgrifennu'n Gymraeg, neu
- wedi byw neu weithio yng Nghymru ers tair blynedd cyn 31 Awst flwyddyn yr ŵyl.
- Sut i ymgeisio: Rhaid cyflwyno'r wybodaeth ganlynol a thalu £10 er mwyn cwblhau eich cais drwy system gofrestru'r Eisteddfod cyn y dyddiad cau
- Datganiad 300 gair amdanoch eich hun a sut y bydd y wobr ariannol yn cael ei defnyddio i gynorthwyo gyda'ch astudiaethau a'ch uchelgais gyrfa
- Dogfen pdf yn cyflwyno eich gwaith, yn cynnwys hyd at 8 llun ynghyd ag esboniadau byr o’r gwaith.
DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu