1. Rheolau cyffredinol Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
    Mae cystadlaethau’r Adran Cerdd Dant yn dilyn rheolau Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, a cheir copi o’r rheolau hyn ar wefan y Gymdeithas; www.cerdd-dant.org
  2. Telynorion
    Rhaid derbyn telynorion swyddogol yr Eisteddfod yn yr holl gystadlaethau, a bydd dwy delyn yn cyfeilio yng nghystadlaethau’r Côr a’r Partïon Cerdd Dant. Bydd yr Eisteddfod yn ceisio sicrhau bod yr un telynorion yn cyfeilio yn y cystadlaethau cyn-derfynol a therfynol.
  3. Oedran
    Rhaid i’r cystadleuydd fod o fewn cwmpas oedran y gystadleuaeth ar 31 Awst 2024.
  4. Copïau
    Mae hi’n anghyfreithlon gwneud copïau ychwanegol eich hun o gerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi’i gyhoeddi.
  5. Cystadlaethau cyn-derfynol a therfynol
    Bydd disgwyl i gystadlaethau'r adran hon ymddangos mewn rownd gyn-derfynol, a dyfernir y tri gorau i gystadlu yn y rownd derfynol oni nodir yn wahanol.
  6. Beirniaid
    Ni chaiff unrhyw un sydd yn ddisgybl preifat i’r beirniad neu’n berthynas agos iddo/iddi dderbyn gosodiad na hyfforddiant mewn unrhyw gystadleuaeth yn yr Adran hon.

DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.

  1. Competitions in the Cerdd Dant section follow the rules of Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, available on the Association’s website.
  2. The Eisteddfod’s official harpists must be accepted for all competitions, and two harps will accompany the Choirs and Cerdd Dant Parties competitions. The Eisteddfod will try to ensure that the same harpists accompany the semi-final and final test.
  3. Copyright
    It is the responsibility of choirs, parties, groups or individuals to obtain the copyright of any own choice pieces. This must be stated on the competition form. Further guidance and instructions can be found in the ‘Competition’ section of the Eisteddfod website.
  4. Age
    The competitor must be within the competition’s age range on 31 August 2024.
  5. Copies
    It is illegal to make your own additional copies of music, poetry or any published work.
  6. Any person who is a private pupil of the Adjudicator or an immediate relative, cannot accept a ‘Gosodiad’ or coaching in any competition within this Section.

Please read the General Terms and Conditions before entering any competition.