STONDINAU AR Y MAES
Yn anffodus, mae Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd iawn i symud Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion i haf 2022.
Mae sicrhau diogelwch ein gwirfoddolwyr, stondinwyr, cefnogwyr, ymwelwyr, cystadleuwyr, artistiaid a staff yn hollbwysig i ni, ac felly rydym yn gohirio’r Eisteddfod am flwyddyn.
Rydym ni, fel chi, yn siomedig na fyddwn yn cynnal yr Eisteddfod eleni.
Ni fyddwn yn cymryd rhagor o archebion tan yn gynnar yn 2022, a hynny os bydd gofod yn caniatau.
Yn y cyfamser, dyma wybodaeth cyffredinol ar gael stondin yn yr Eisteddfod.
Dyddiad 2022: Gorffennaf 30 - 6 Awst (stondinau i agor am 10.00 ar 30 Gorffennaf)
Lleoliad 2022: Tregaron
Dyddiad ail-agor
ffurflen gofrestru: Yn gynnar yn 2022
NODER:
Fe fydd stondinwyr yn cael dewis eu lleoliad, ond bydd angen cwblhau ffurflen gofrestru ar-lein a thalu blaendal o £250 + TAW (£300).
Byddwn wedyn yn cysylltu â chi yn y drefn mae'r ceisiadau yn dod i mewn er mwyn i chi gwblhau ffurflen mwy manwl a dewis lleoliad.
Ar ôl i ni gysylltu â chi, ni fyddwn yn symud ymlaen at y nesaf nes derbyn eich cais.
Byddwch yn ymwybodol y gall y broses yma gymryd rhai wythnosau.
Mae costau 2020 (mae’n bosib y bydd cynnydd ar gyfer 2022) i'w gweld yn y ddogfen ar waelod y dudalen ynghyd â'r Llyfryn Gwybodaeth sy'n cynnwys yr holl reolau ac amodau. Sicrhewch eich bod yn darllen hwn cyn gwneud cais am stondin.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglyn â stondinau, cysylltwch a gwyb@eisteddfod.org.uk
Dyma'r opsiynau gwahanol o stondinau sydd ar gael :
Adeiladau
Os hoffech dderbyn manylion neu drafod costau llogi adeilad cysylltwch a gwyb@eisteddfod.org.uk
PAM CAEL STONDIN YN YR EISTEDDFOD ?
Os ydych yn awyddus i gyflwyno’ch cynnyrch gerbron marchnad eang a marchnad Gymreig, yna mae’r Eisteddfod yn eich galluogi i wneud hynny am bris rhesymol.
Mae nifer o siopau a chwmnïau yn dod i’r Eisteddfod i gael sylw cenedlaethol a gwerthu eu cynnyrch. Mae rhai yn dewis lawnsio eu cwmni yn yr Eisteddfod. Mae’r holl gyrff Cymreig, y sefydliadau proffesiynol, cymdeithasau gwirfoddol ac elusennau hefyd yn bresennol.
Yr Eisteddfod yw gwyl ddiwylliannol mwyaf Cymru, ac mae’n seiliedig ar 800 mlynedd o draddodiad. Gan mai Cymraeg yw iaith yr Eisteddfod dylai stondinwyr ddisgwyl felly fod cwsmeriaid ac ymwelwyr yn gwneud ymholiadau ac yn archebu trwy gyfrwng y Gymraeg. O’r herwydd , mae angen o leiaf un siaradwr Cymraeg ar y stondin drwy’r amser – gall y person yma fod yn rhugl, yn ddysgwr profiadol neu’n dechrau dysgu. Dylid hefyd cael mwyafrif o lenyddiaeth y stondin yn Gymraeg.
Mae angen i holl weithgareddau'r stondin fod yn Gymraeg.
Y Maes
Yng nghanol y Maes ceir y prif bafiliwn lle cynhelir y cystadlaethau amrywiol, seremonïau’r Orsedd a chyngherddau gyda’r nos. Yn ogystal â hyn ceir nifer o bafiliynau llai ac ardaloedd gwahanol o gwmpas y Maes megis, y Babell Lên, Pentref Plant, Pentref Gwyddoniaeth, Y Lle Celf, ardal i ddysgwyr, ardal chwaraeon ynghyd â theatr, sinema a llwyfan awyr agored ar gyfer perfformwyr o bob math tan yn hwyr gyda’r nos. Mae’r pentref bwyd yn cynnig rhywbeth i bawb a bwydydd o bob math. Ceir hefyd bwyty trwyddedig ar y Maes.
Mae’r Wyl, sy’n denu tua 150,000 o ymwelwyr yn flynyddol mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn.
Dewch i’r Eisteddfod i hybu eich cwmni a’ch cynnyrch – gewch chi ddim eich siomi !